Frawd neu chwaer, fe’th wasanaethaf; gad im fod fel Crist i ti; boed i mi gael gras i dderbyn dy wasanaeth di i mi. Pererinion ŷm yn teithio, a chymdeithion ar y daith; yma rŷm i helpu’n gilydd- rhodio’r filltir, cario’r baich. Daliaf olau Crist i oleuo yn nhywyllwch gwaetha’ d’ofn: estyn llaw a wnaf […]
Pennill 1 Arglwydd Hollalluog Mae dy holl eiriau’n wir Â’th gariad byth ni fetha Rwy’n saff pan rua’r môr Ie, rwy’n saff pan rua’r môr Cytgan Fy angor tragwyddol Fy nghysgod tra yn y storm Ti yw ‘Ngwaredwr, dwyt byth yn pallu (Ie) Ti yw’r Graig lle safaf Pennill 2 Yma yng nghanol brwydr O […]
Pennill 1 Roedd adeg pan yr aeth pob dim yn ddu Ac angau’n hawlio’i fod yn ben  Brenin Cariad wedi ildio’i hun Hwn oedd y dydd tywyllaf un Pennill 2 Ar groes a wnaethpwyd i bechadur Fe wnaethpwyd iawn am bob un bai Anadlodd yntau “Fe orffennwyd” Ond nid fel hyn y byddai’n cloi […]
Fy ngweddi, Iôr, yw cael tyfu’n awr Mewn ffydd a chariad, gras a hedd, Ei ’nabod Ef, y Prynwr Mawr, A cheisio’n daer cael gweld Ei wedd. Fe’m dysgodd i weddïo’n rhydd, A do, rwy’n siŵr, atebodd ’nghri. Ond o’r fath fodd y profwyd ffydd, Anobaith ddaeth i’m llethu i. Gobeithio wnes am ffafriol awr […]
Pennill 1 Mae fy ngeiriau’n brin Does gen i ddim mwy O sut fedra i ddweud fy niolch i? Pennill 2 Gallwn ganu cân Fel rwy’n aml wneud (Ond) daw pob cân i ben Dwyt ti byth yn gwneud Corws Ac fe folaf drachefn Gan godi fy nwylo i’r nef Y cyfan sydd gennyf yw […]
Gweddi’r Pererin Fy Nuw, fy Nhad, pan giliaf i’r cysgodion yn wan fy ffydd, yn blentyn tlawd afradlon, cyfeiria fi at loches y fforddolion lle byddi di, yn disgwyl im nesáu. Ac wrth nesáu, rhof heibio fy ffolineb wrth geisio’r ffordd i fywyd o ffyddlondeb; trwy niwl fy myd, synhwyro’th bresenoldeb a theimlo’r llaw, sy’n […]
Pennill 1 Fy nghân o fawl a fydd fyth bythol Iesu, Fy nghadarn sylfaen ar dywod brau; Gobaith a nerth drwy wae pob ofn a methiant, Pob siomedigaeth ddaw i’m rhan Ei gariad pur a’m cwyd i’r lan. Cytgan Felly trwy fy oes rhydd fy enaid fawl I’r Iôr, fyth bythol Iesu. Er pob storm […]
Pennill 1 (Pan) mae’th galon di ar dorri’n llwyr A dy ddwylo’n wag a’th ffydd yn mynd Pan mae gweddi’n teimlo’n dda i ddim A’r addewid nawr mor bell i ffwrdd Corws Coda dy wedd Mae gobaith ar y gorwel Edrych ar Grist Ei deyrnas sydd yn cyrraedd Rho ogoniant Yn yr aros A dal […]
Pennill 1 Pa obaith sydd i ni drwy’n hoes? Dim ond Crist, Crist a’i Groes. Beth yw ein hunig hyder mawr? Eiddo Ef yw’n henaid nawr. Pwy ddeil ein dyddiau yn Ei law? Beth ddaw, heblaw pan dd’wed y gair? A beth a’n ceidw i’r dydd a ddaw? Gwir gariad Crist, Ef yw ein craig. […]
Gwawriodd llonder dros y byd, Gwiriwyd Gair y Crëwr: Gwaredigaeth Duw a roed – Gobaith pob preswyliwr. Nid â ffanffer oddi fry, Na gogoniant grasol, Ond rhodd wylaidd cariad pur: Iesu, faban dwyfol. Sain rhyfeddod leinw’r nen Gyda chân yr engyl, Wrth i D’wysog mawr y byd ’Fochel draw mewn stabl. Dwylo gynt fu’n ffurfio’r […]