O Iesu, y ffordd ddigyfnewid a gobaith pererin di-hedd, O tyn ni yn gadarn hyd atat i ymyl diogelwch dy wedd; dilea ein serch at y llwybrau a’n gwnaeth yn siomedig a blin, ac arwain ein henaid i’th geisio, y ffordd anghymharol ei rhin. O lesu’r gwirionedd anfeidrol, tydi sydd yn haeddu mawrhad, O gwared […]
O! am gael byw i Iesu Grist bob dydd, clod i Dduw! O! am gael byw i Iesu, byw yn rhydd, clod i Dduw! Gwell na’r byd a’i holl drysorau, Hwn ydyw’r brawd a’r cyfaill gorau, O! am gael byw i Iesu Grist bob dydd. ‘R wy’n mynd i fyw i Iesu Grist bob dydd, […]
O! Iachawdwr pechaduriaid, Sydd â’r gallu yn dy law; Rho oleuni, hwylia f’enaid, Dros y cefnfor garw draw; Gad i’r wawr fod rhag fy wyneb, Rho fy enaid llesg yn rhydd, Nes i’r heulwen ddisglair godi, Tywys fi wrth y seren ddydd. O! ynfydrwydd, O! ffolineb, Im erioed oedd rhoi fy mryd, Ar un tegan, […]
O! Gyfiawnder pur tragwyddol, O! Gyfiawnder maith di-drai – Rhaid i’m henaid noeth newynllyd Gael yn fuan dy fwynhau: Rho dy wisg ddisgleirwen olau, Cudd fy noethni hyd y llawr, Fel nad ofnwyf mwy ymddangos Fyth o flaen dy orsedd fawr. William Williams (1717-1791) (Llawlyfr Moliant Newydd: 574)
O! fy enaid gorfoledda, Er mai tristwch sy yma’n llawn; Edrych dros y bryniau mawrion I’r ardaloedd hyfryd iawn: Uwch tymhorol Feddiant mae fy nhrysor drud. Gwêl tu hwnt i fyrdd o oesoedd, Gwêl hapusrwydd maith y nef Edrych ddengmil eto ‘mhellach, Digyfnewid byth yw ef; Tragwyddoldeb, Hwn sy’n eiddof fi fy hun. Anfeidroldeb maith […]
O! na bai cystuddiau f’Arglwydd Yn fy nghalon yn cael lle – Pob rhyw loes, a phob rhyw ddolur, Pob rhyw fflangell gafodd E’; Fel bo i’m pechod Ildio’r dydd a mynd i maes. Ti dy Hunan yno’n Frenin, Ti dy Hunan yno’n Dduw, D’eiriau d’Hunan yno’n uchaf- D’eiriau gwerthfawroca’u rhyw; Ti wnei felly Bydew […]
O dewch i ddathlu nawr Ei gariad Ef, dewch i ddathlu nawr Iesu Fab Duw a’n carodd A’n gwneud yn fyw. Fe floeddiwn glod i ti. Rhoddaist lawenydd y nef i ni, Down ger dy fron ag offrwm mawl – Ein bywyd oll i ti. O dewch i ddathlu nawr (a) Llawenhau (a) chanu clod […]
O! Ysbryd sancteiddiolaf, Anadla arna’ i lawr O’r cariad anchwiliadwy Sy ‘nghalon Iesu mawr; Trwy haeddiant Oen Calfaria, Ac yn ei glwyfau rhad, ‘Rwy’n disgwyl pob rhyw ronyn O burdeb gan fy Nhad. O! Ysbryd pur nefolaidd, Cyn elwy’ i lawr i’r bedd, Trwy ryw athrawiaeth hyfryd, Gad imi brofi o’th hedd: Maddeuant, O! maddeuant, […]
O! foroedd o ddoethineb Oedd yn y Duwdod mawr, Pan fu’n cyfrannu ei gariad I dlodion gwael y llawr; A gwneuthur ei drugaredd, A’i faith dosturi ‘nghyd I redeg megis afon Lifeiriol dros y byd. Rhyw ddyfnder maith o gariad, Lled, annherfynol hyd, A redodd megis dilyw Diddiwedd dros y byd; Yn ateb dyfnder eithaf […]
O! Tyred addfwyn Oen, Iachawdwr dynol-ryw, At wael bechadur sydd dan boen Ac ofnau’n byw; O! helpa’r llesg yn awr I ddringo o’r llawr yn hy, Dros greigiau geirwon serth, i’r lan I’r Ganaan fry. O! Dal fi, ‘rwyf heb rym, Yr ochor hon na thraw; Os sefyll wnaf, ni safaf ddim Ond yn dy […]