Torrwn fara ar ein gliniau yn gytûn, torrwn fara ar ein gliniau yn gytûn, a phan rof fy ngliniau i lawr gan wynebu haul y wawr, O Dduw, bydd drugarog wrthyf fi. Yfwn win ar ein gliniau yn gytûn, yfwn win ar ein gliniau yn gytûn, a phan rof fy ngliniau i lawr gan wynebu […]
Ti yr hwn sy’n fôr o gariad ac yn galon fwy na’r byd, ar y ddau a blethodd gwlwm boed dy fendith di o hyd: bydd yn gwmni yn eu hymyl, bydd yn gysgod drwy eu hoes, ac ar lwybrau dyrys bywyd nertha’r ddau i barchu’r groes. Yn yr haul ac yn yr awel pan […]
(Pantyfedwen) Tydi a wnaeth y wyrth, O Grist, Fab Duw, tydi a roddaist imi flas ar fyw: fe gydiaist ynof drwy dy Ysbryd Glân, ni allaf tra bwyf byw ond canu’r gân; ‘rwyf heddiw’n gweld yr harddwch sy’n parhau, ‘rwy’n teimlo’r ddwyfol ias sy’n bywiocáu; mae’r Haleliwia yn fy enaid i, a rhoddaf, Iesu, fy […]
Tra bo adduned dau heb golli lliwiau’r wawr a’n cymod yn parhau o hyd yn drysor mawr, O Dduw ein Iôr, rho inni ffydd i gadw’r naws o ddydd i ddydd. Tra bo anturiaeth serch yn llawn o’r gobaith glân, a delfryd mab a merch yn troi yn felys gân, rho help i ni, O […]
Tyrd atom ni, O Grëwr pob goleuni, tro di ein nos yn ddydd; pâr inni weld holl lwybrau’r daith yn gloywi dan lewyrch gras a ffydd. Tyrd atom ni, O Luniwr pob rhyw harddwch, rho inni’r doniau glân; tyn ni yn ôl i afael dy hyfrydwch lle mae’r dragwyddol gân. Tyrd atom ni, Arweinydd pererinion, […]
Ti sy’n llywio rhod yr amser ac yn creu pob newydd ddydd, gwrando, Iôr, ein deisyfiadau a chryfha yn awr ein ffydd: ynot y cawn oll fodolaeth, ti yw grym ein bywyd ni, ‘rwyt Greawdwr a Chynhaliwr, ystyr amser ydwyt ti. Maddau inni oll am gredu mai nyni sy’n cynnal byd a bod gwaith ein […]
Tyrd, Ysbryd Glân, rho d’ olau clir I’n harwain drwy yr anial dir; Fel gallom ddilyn hwnnw a roes Ei fywyd trosom ar y groes; Yna, ‘n ôl gorffen ar ein gwaith, Cael gweld ei wedd ar ben y daith. Tyrd, Ysbryd Glân, i’w casglu oll, Dy blant sy’n cyflym fynd ar goll; Oddi wrth […]
Trwy nos galar ac amheuon Teithia pererinion lu, Ânt dan ganu cerddi Seion Tua gwlad addewid fry. Un yw amcan taith yr anial, Bywiol ffydd, un hefyd yw; Un y taer ddisgwyliad dyfal, Un y gobaith ddyry Duw. Un yw’r gân a seinia’r miloedd O un galon ac un llef; Un yw’r ymdrech a’r peryglon, […]
Yr adar bach sy’n canu Yn swynol ar y coed, Canmolant gariad Iesu, Y gorau fu erioed, Telynau bychain ydynt I lonni’r galon drist, ‘D oes allu i ddistewi Eu cân o fawl i Grist. Cytgan: Telynau bychain Iesu, a’u sain yn cyrraedd nef, I uno yn yr anthem. O foliant iddo Ef. Y blodau […]
Torri wnes fy addunedau Gant o weithiau maith eu rhi’, Ac mae’n rhaid wrth ras anfeidrol I gadw euog fel myfi; Wrth yr orsedd ‘r wyf yn cwympo, Ac nid oes un enw i maes Ag a rydd im feddyginiaeth Ond yn unig gorsedd gras. Minnau rois fy holl ymddiried, Iesu, arnat Ti dy Hun; […]