Plygwn lawr o flaen dy orsedd, Plygwn lawr i’n Brenin ni, Plygwn nawr i Ti sy’n haeddu ein calonnau ni i gyd. Mae dy gwmni Di ym mhopeth dyn ni eisiau, dy bresenoldeb Di yn dod â hedd; ger dy fron Di dyn ni’n gweld d’ogoniant a d’adnabod Di fel Tad. Hawlfraint 2011 Andy Hughes
Ti’n dweud “tyrd,” Ti yw Arglwydd y nefoedd; Ti’n dweud “tyrd” wrth blentyn euog fel fi; Ti’n dweud “tyrd” a dwi’n cuddio rhag dy wyneb ond rwyt Ti’n dal i alw, ac felly dwi’n dod. Wna i godi a rhedeg i fod yn dy gwmni i dderbyn dy faddeuant sy di brynu i mi; Mi […]
Mi glywaf lais sy’n galw f’enaid aflan, Gras a gwirionedd sy’n ei eiriau byw, Mae’n fy ngwahodd i’w ddilyn Ef i’w gorlan, Rwy’n ei adnabod, llais fy Mugail yw. Cytgan: Fy Mugail i, fy Mugail i, fy Mugail i, Rwy’n ei adnabod, llais – llais fy Mugail i. Pan fyddo’r nos yn ddu, a’r byd […]
Does ’na neb fel Ti, Does ’na neb fel Ti, Does ’na neb fel Ti Iesu. O dy aberth pan est ti i Galfari. O dy gariad ar y groes drosof fi. ©2008 Andy Hughes Singable English translation: There is none like You, There is none like You, There is none like You Jesus. O your sacrifice poured out at Calvary. O Your love shown on the cross, Lord, for me.
Pan dwi’n mynd ar fy ffordd yn y bore bach, pan dwi’n mynd ar fy ffordd yn y p’nawn, pan dwi’n mynd ar fy ffordd, pan mae’n nosi’n braf, Rydw i’n gwybod fod hyn yn iawn. Duw sy’n fy ngharu, beth bynnag a wnaf, Duw sy’n gofalu, ble bynnag yr af. Duw sydd yn gwybod […]
Iddo Ef sydd yn gallu gwneud llawer mwy na phopeth a ddeisyfwn neu ddychmygwn trwy ei nerth sydd ar waith, trwy ei nerth sydd ar waith ynom ni, ynom ni. Iddo Ef y bo’r gogoniant ynom ni ac yng Nghrist Iesu y Meistr o genhedlaeth i genhedlaeth, hyd byth a hyd byth, Amen, Amen. Nerthol […]
Teilwng wyt Ti, ein Harglwydd a’n Duw, Teilwng wyt Ti, ein Harglwydd a’n Duw, Oherwydd tydi sy’n creu popeth byw, O derbyn y gogoniant, y gallu, anrhydedd a’r nerth, Ein clod yn awr a roddwn i Ti, byth mwy. Teilwng yw’r Oen, sy’n awr yn y nef. Teilwng yw’r Oen, sy’n awr yn y nef. […]
Mae’r Arglwydd ein Duw wedi siarad, wedi galw ei bobl i ddod ynghyd, Wrth i’r nef gyhoeddi ei gyfiawnder mae ein Duw yn dod, yn ei holl ysblander. Galwaf arnat Ti. Ti yw fy Nuw, Ti yw fy Nuw. Does dim byd fedra’i roi o’r newydd i Ti, ond galwaf i arnat Ti i fy […]
Y mae Cymru wedi troi ei chefn, wedi teithio’n bell oddi wrthyt Ti, a dirmygu dy holl roddion grasol; O ein Tad trugarog clyw ein cri: Cymer Dy le ac anfon Dy lân Ysbryd i’r enaid sych sy’n barod am Dy dân. Ein hunig obaith tyrd i’n llenwi eto. Adfywia ni yn nerth Dy Ysbryd […]
Mae gen i ddwylo i’w curo i Dduw, Mae gen i goesau, i neidio i Dduw, Mae gen i ‘sgwyddau i blygu i Dduw, a fy nghorff i gyd i foli fy Nuw. Diolch, diolch, diolch i Ti, Dduw, Diolch, diolch, diolch i Ti, Dduw. Mae gen i glustiau i wrando ar Dduw, Mae gen […]