Cân serch o’r nefoedd sy’n llenwi ein byd; Gobaith a ddaeth i’r cenhedloedd. Er y tywyllwch a welir bob dydd – Llewyrcha gwir oleuni Crist. Aeth dy efengyl drwy’r ddaear i gyd; Atseiniodd lawr drwy’r canrifoedd. Gwaed dy ferthyron wna d’eglwys yn gryf – Llewyrcha gwir oleuni Crist. Byw ry’m i ti; byddai marw yn […]
Fy ffrind a’m Iôr Melysach serch na mêl, Fe’m cwrdd lle’r wyf yn awr. Beth alla’i wneud? Ymgrymaf ger dy fron, Dy wedd sy’n drech na mi. Fe alwaf Iôr ar d’enw di, Dy haeddiant yw y clod i gyd. A byddaf byw yn llwyr i ti – Dy haeddiant yw y clod i gyd. […]
Fel fflam dân, mae y cariad cyntaf Yn llosgi yn fy nghalon i. Fe daniodd ef fflam ei gariad ynof, Ac ‘rwyf am iddi losgi’n gry’. Ie, yn y nos ‘rwyf am ganu mawl i ti, Ac yn y bore fe geisiaf d’wyneb di. ‘Rwy’n un o’th blant ac fe ddawnsiaf o’th flaen di, Fe […]
Mae ‘nghalon i yn llawn edmygedd I ti fy Nuw, fy Mrenin mawr; Dy fawredd di yw fy ysgogiad, Geiriau dy ras yw alaw’r gân o’m mewn. O garu’r da, ac nid drygioni – Fe rydd dy Dduw dy wobr i ti, Ac ar dy ben, rhydd olew sanctaidd A thaenu persawr dros dy […]
Fy Iesu, fe’th garaf, cans eiddof wyt ti; Deniadau fy mhechod – gwrthodaf eu cri; Fy ngrasol Waredwr, Ti yw fy Arglwydd mawr, Os bu imi’th garu erioed, caraf nawr. Fy Iesu, fe’th garaf cans Ti’m ceraist i, Gan brynu fy mhardwn ar groes Calfari; Am golli dy waed yn ddiferion coch i’r llawr Os […]
Fy Iesu, fy Arglwydd, ‘Dwi d’angen di yn fy mywyd i. Does undyn yn debyg; Hiraethu wnaf am dy gariad di. O! Iesu, O! Iesu, ‘Does cariad tebyg i dy gariad di. O! Iesu, fy Iesu, Derbyn yn rhodd fy nghalon i – Fe’i rhoddaf i ti. Rwy’n chwilio, rwy’n ceisio, Gwna ynof beth a […]
Fy Iesu, ‘Ngwaredwr, Arglwydd ‘does neb fel ti’n Deilwng yn wir o’m moliant i; Rhyfeddol yw dy gariad cryf. Fy nghysur, fy nghysgod, Ti yw fy noddfa a’m nerth. Popeth sy’n bod, o dan y rhod, Uned i’w addoli ef. Bloeddiwch i Dduw’r ddaear oll, cenwch ‘nawr. Nerth a gogoniant, i’th enw rhown fawl. Plyga’r […]
Cariad na bu ei fath Yw cariad f’Arglwydd glân; ‘Gras i’r di-ras i’w gwneud Yn raslon,’ yw ein cân; Ond pwy wyf fi? Cadd, er fy mwyn, Yr Iesu ei ddwyn i Galfari! Gadawodd orsedd nef Er dwyn iachâd i ddyn; Ond fe’i gwrthodwyd Ef, Y Crist, gan bawb yn un: Fy nghyfaill yw, ffyddlonaf […]
Nid gosgordd na brenhinol rwysg Gaed i Frenin Nef, Na gwylnos weddi dan y sêr Ar ei farw Ef; Na baner bri ar hanner mast Er gwarth y Groes, Na blodau’n perarogi’r ffordd Arweiniai at Ei fedd ar y Pasg cyntaf un. Dim torchau’n deyrnged ar y llawr – Gwatwar milwyr gaed, A dim ond […]
Mae’n hyder yn ei enw Ef, Ffynhonell iachawdwriaeth. Gorffwys sydd yn enw Crist, O ddechrau’r greadigaeth. Nid ofnwn byth y drwg a ddaw, Mae Un sydd yn ein caru; Ein noddfa ddiogel ydyw Ef: ‘Ein gobaith sydd yn Iesu.’ Ef yw ein hamddiffynfa, ni chawn ein hysgwyd; Ef yw ein hamddiffynfa, ni chawn ein hysgwyd. […]