Lle daw ynghyd Ddau neu dri yn fy enw, Yno’r wyf; yno gyda chwi. Ac os bydd dau yn gytûn wrth weddïo, Ymbil taer yn fy enw i. Fy Nhad a wrendy’th weddi di; Gwrendy’th gri a’i hateb. Ac fe rydd y cyfan oll, Drwy nerth f’enw i. Graham Kendrick: Where two or three, Cyfieithiad […]
Ti yw fy mhopeth, Fy nghariad i; Cyfaill mynwesol wyt ti. Arglwydd tyrd ataf, Cyffwrdd fi nawr. Ti yw yr Un a garaf. Cofleidia fi, caf brofi gwefr Curiad dy galon di. Gad i’m bwyso ar dy fynwes di, O fy Iesu, O fy Iesu. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, You are my passion: Noel a […]
Fe roddaist heibio orsedd nef, I gerdded llwybr tua’r bedd, Dioddef trais y rhai a greaist ac a geraist. Dygaist faich f’euogrwydd i – Marw ar groes, ond codaist ti; Nawr teyrnasu rwyt O’r nef yn ddyrchafedig. O galluoga fi i’th foli di, Prynaist fi a’th waed ar Galfari; Cyffesaf a charaf di’n dragwyddol. Ti […]
Dy gariad di sy’n estyn hyd y nefoedd; A’th wir ffyddlondeb sy’n estyn hyd y nen; Fel cadarn fynydd saif dy hardd gyfiawnder. Mor werthfawr yw dy gariad drud. Dyrchafaf di, O, fy Iôr, Dyrchafaf di, O, fy Iôr; Clod i’th enw glân, Cân fy nghalon fawl i ti – Dyrchafaf di, O, fy […]
Gweithiwn gyda’n gilydd Er mwyn gweld dy Deyrnas, Nefoedd wen yn dod i’n byd. Tegwch a chyfiawnder, Chwyldro yr efengyl, Gobaith gwir i bobloedd byd. Mae y wawr yn torri, Mae yn ddydd i foli, Ysbryd Duw sy’n mynd ar led. Profi hedd a rhyddid, Profi gwir lawenydd, Profi byd heb ofid mwy. Gweld y […]
Daw’r cwbl oll i ben – Yr holl alar, a’r poen a’r holl ddagrau. Disgwyl am y dydd Pan fyddi’n symud I ddwyn i ben y dioddef sydd. Tyrd, Arglwydd i’n hiacháu ni, I’n hiacháu ni. Tyrd, Arglwydd i’n hiacháu ni, I’n hiacháu ni. D’oleuni di a ddaw – Disgleiria, a daw dydd newydd. D’addewidion […]
Heddiw, a yw’n wir Y gall gweddi’r gwan Roi i’r ddaear law, Chwalu gwledydd mawr? Dyna’r gwir, ac rwy’n ei gredu; Rwy’n byw er dy fwyn. Ydy’, mae yn wir. Fe all gweddi wan Godi’r meirw cudd, Rhoddi’r dall yn rhydd. Dyna’r gwir ac rwy’n ei gredu, Rwy’n byw er dy fwyn. Byddaf yn un, […]
Dwylo caredigrwydd yw’th ddwylo di; Maent yn dyner fel sidan – cryf i’m cynnal i. Rwy’n dy garu, Rhof fy hun i ti, Ac ymgrymaf fi. Dwylo llawn tosturi yw’th ddwylo pur; Hoeliwyd hwy ar y croesbren, im gael bod yn rhydd. Cariad sydd o’m mewn i’n llosgi nos a dydd; Cariad f’annwyl Waredwr yw […]
Derbyn fy niolch gwir am fy achub i; Rhof fi fy hun yn llwyr i foli d’enw di. Tywelltaist ti dy waed i’m puro i; Fy mhechod i, a’m gwarth, a roddwyd arnat ti. F’Arglwydd a’m Duw, F’Arglwydd a’m Duw! Dy wirionedd di a’m gwnaeth yn rhydd; Caf weld dy wedd ryw ddydd. Gras a […]
Gariadlon Dduw, clodforwn di, Diogel y’m dan d’adain gu, Ti wêl bob cam o daith dy blant, Ein gobaith ni. Fe saif ein gobaith ynot ti Rhoist dy hun i ni gael byw; Do fe ddaethost lawr o’r nefoedd, Buost farw i ni gael byw. Diolch Iesu am ein harwain Ein bendithio wyt bob dydd. […]