Rwy’n dy garu, rwy’n dy garu, x3 Rwy’n dy garu, Amen. Rwy’n dy garu, Amen. Aleliwia, aleliwia, x3 Aleliwia, Amen. Aleliwia, Amen. ©2005 Elise Gwilym o’r CD Tiwnio Mewn
O fy Arglwydd nefol, Nid balch fy nghalon i, Nid penuchel ydwyf, Na’n ceisio clod a bri, Na’n ymwneud â phethau mawr, Rhy ryfeddol oll i’m rhan, Ond tawelaf f’enaid Fel plentyn gyda’i fam. Geiriau: Cass Meurig (addaswyd o Salm 131) Alaw: Si Hei Lwli (tradd)
Arglwydd, ti sydd wedi fy chwilio i, A’m hadnabod, neb yn well; Gwyddost pryd dw i’n codi neu eistedd lawr, A beth sy’n fy meddwl o bell. Wrth orffwys neu wrth gerdded cam, Rwyt yn gwybod pob dim dwi’n wneud, Rwyt ti’n gwybod, cyn imi agor ceg, Bob gair dw i’n mynd i’w ddweud. Tu […]
O canwch i’r Arglwydd gân newydd, ei seintiau, Ym mrenin a chreuwr y byd, llawenhewch! A molwch ei enw â dawnsio a chanu, Â thympan a thelyn addolwch, mwynhewch! Oherwydd mae Duw wrth ei fodd gyda’i bobl, Mae’n rhoi gwaredigaeth i’r eiddil a’r gwan, O canwch i’r Arglwydd gân newydd, ei seintiau, Yng nghanol ei […]
Disgwyl bûm i wrth fy Nuw Ac yna plygodd ataf, Cododd fi o’r mwd a’r baw Mae ‘nhraed ar graig: ni faglaf. Rhoddodd yn fy nghalon gân O fawl i’n Duw goruchaf. Bydd llawer un, pan welant hyn, Yn ofni Duw o’r newydd, Gwyn ei fyd yr un sy’n wir Ymddiried yn yr Arglwydd. Ni […]
O Arglwydd Dduw, ein brenin nefol Mae d’enw di mor fawr ryfeddol Ardderchog wyt dros dir a moroedd Gosodaist d’ogoniant uwch y nefoedd O, Dad annwyl, O, frenin sanctaidd Mor fawr yw dy enw di, Amen Fe godaist noddfa rhag d’elynion  lleisiau plant, nid arfau cryfion Sŵn baban bach ar fron yn gorwedd Dawelodd […]
Teilwng wyt Ti, ein Harglwydd a’n Duw, Teilwng wyt Ti, ein Harglwydd a’n Duw, Oherwydd tydi sy’n creu popeth byw, O derbyn y gogoniant, y gallu, anrhydedd a’r nerth, Ein clod yn awr a roddwn i Ti, byth mwy. Teilwng yw’r Oen, sy’n awr yn y nef. Teilwng yw’r Oen, sy’n awr yn y nef. […]
Fel y lefain yn y blawd Wedi ei guddio a’i dylino Eto’n tyfu yn y dirgel Nes caiff y cwbl ei lefeinio; Tebyg i hyn mae teyrnas Dduw, Tebyg i hyn mae teyrnas Dduw. Deled dy deyrnas Gwneler d’ewyllys Yma ar y ddaear Fel yn y nefoedd Fel yr hedyn lleiaf un Wedi ei guddio’n […]
Ti’n dweud “tyrd,” Ti yw Arglwydd y nefoedd; Ti’n dweud “tyrd” wrth blentyn euog fel fi; Ti’n dweud “tyrd” a dwi’n cuddio rhag dy wyneb ond rwyt Ti’n dal i alw, ac felly dwi’n dod. Wna i godi a rhedeg i fod yn dy gwmni i dderbyn dy faddeuant sy di brynu i mi; Mi […]
Ti’n rhoi i mi statws a gwerth, Ti’n rhoi i mi awdurdod a nerth, Ti’n dangos pwy ydw i – Rydw i’n blentyn i Ti. Ti’n rhoi i mi dy gyfiawnder mwyn, Ti’n rhoi i mi dy fywyd yn llwyr, Ti’n eiddo i mi fy hun, Rydw i’n eiddo i Ti. Dwi’n plygu glin i’th […]