Fugail da, mae’r defaid eraill eto ‘mhell o’r gorlan glyd, crwydro’n glwyfus ar ddisberod maent yn nrysni’r tywyll fyd: danfon allan dy fugeiliaid, â’u calonnau yn y gwaith, er mwyn cyrchu’r rhai crwydredig o bellterau’r anial maith. Hiraeth cyrchu’r defaid eraill ynom ninnau elo’n fwy; dylanwadau d’Ysbryd gerddo ymhob eglwys drostynt hwy: yma, yn ein […]
Fy Iesu, fe’th garaf, cans eiddof wyt ti; Deniadau fy mhechod – gwrthodaf eu cri; Fy ngrasol Waredwr, Ti yw fy Arglwydd mawr, Os bu imi’th garu erioed, caraf nawr. Fy Iesu, fe’th garaf cans Ti’m ceraist i, Gan brynu fy mhardwn ar groes Calfari; Am golli dy waed yn ddiferion coch i’r llawr Os […]
Fy Iesu yw fy Nuw, Fy noddfa gadarn gref; Ni fedd fy enaid gwan, Ddim arall dan y nef; Mae Ef ei Hun a’i angau drud, Yn fwy na’r nef, yn fwy na’r byd. Fy nymuniadau i gyd Sy’n cael atebiad llawn, A’m holl serchiadau ‘nghyd Hyfrydwch nefol iawn, Pan fyddwy’n gweld wrth olau’r wawr, […]
Fy Iesu, ‘Ngwaredwr, Arglwydd ‘does neb fel ti’n Deilwng yn wir o’m moliant i; Rhyfeddol yw dy gariad cryf. Fy nghysur, fy nghysgod, Ti yw fy noddfa a’m nerth. Popeth sy’n bod, o dan y rhod, Uned i’w addoli ef. Bloeddiwch i Dduw’r ddaear oll, cenwch ‘nawr. Nerth a gogoniant, i’th enw rhown fawl. Plyga’r […]
Fy Iesu, fy Arglwydd, ‘Dwi d’angen di yn fy mywyd i. Does undyn yn debyg; Hiraethu wnaf am dy gariad di. O! Iesu, O! Iesu, ‘Does cariad tebyg i dy gariad di. O! Iesu, fy Iesu, Derbyn yn rhodd fy nghalon i – Fe’i rhoddaf i ti. Rwy’n chwilio, rwy’n ceisio, Gwna ynof beth a […]
Fy meiau trymion, luoedd maith, a waeddodd tua’r nen, a dyna pam ‘roedd rhaid i’m Duw ddioddef ar y pren. Hwy a’th fradychodd, annwyl Oen, hwy oedd y goron ddrain, hwy oedd y fflangell greulon, gref, hwy oedd yr hoelion main. Fy meiau oedd y wayw-ffon drywanai’i ystlys bur, fel y daeth ffrwd o dan […]
Fy mwriad i yw dy ddilyn di Drwy gydol fy mywyd. Fy mwriad i yw dy ddilyn di Tra byddaf fi byw. Rhoddaf fy hun yn llwyr I bwrpas sydd o fudd tragwyddol. Dy ddilyn di yw fy oll, dy ddilyn di. Gweithiaf i ti ag arian ac aur Drwy gydol mywyd Gweithiaf i ti […]
Fy Nuw, fy Nhad, fy Iesu, boed clod i’th enw byth, boed dynion yn dy foli fel rhif y bore wlith; O na bai gwellt y ddaear oll yn delynau aur i ganu i’r hwn a anwyd ym Methlem gynt o Fair. O Iesu, pwy all beidio â’th ganmol ddydd a nos? A phwy all […]
(Merched yn adleisio’r dynion) Galwaf ar yr Arglwydd Dduw, Sydd yn haeddu’r mawl i gyd. Fe’m gwaredir o’m holl elynion. (Pawb) Y Duw Cadarn, bendithiwn nawr ein Craig A boed i Dduw ein hiachawdwriaeth dderbyn moliant. Y Duw Cadarn, bendithiwn nawr ein Craig A boed i Dduw ein hiachawdwriaeth dderbyn moliant. (Pawb) Y Duw Cadarn, […]
Glynwn gyda’r Iesu, Cyfaill dynol-ryw; Unwn oll i’w garu, Gan mor annwyl yw; Ffyddlon yw i’n cofio Â’i ddaioni drud: Glynwn ninnau wrtho, Cyfaill gorau’r byd. Glynwn gyda’r Iesu, Mae i ni yn frawd; Daeth yn un o’n teulu, Bu fel ni yn dlawd; Atom i’n cysuro Daeth i lawr o’r nef; Mae’n ein cofio […]