Teilwng yw yr Oen sydd ar orsedd nef, Teilwng yw yr Oen laddwyd, Teilwng o’r gallu a chyfoeth, Doethineb a nerth, Nerth a gogoniant, anrhydedd a mawl, Byth bythoedd, byth bythoedd mwy! David J. Hadden: Worthy is the Lamb seated on the throne, Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones Hawlfraint © 1983 Restoration Music Ltd/Sovereign Music UK […]
Teilwng, mae Iesu’n deilwng, Mae ei weithredoedd ef yn gyfiawn ac yn dda. Addfwyn, mae Iesu’n addfwyn, Mae’n maddau beiau lu a’i gariad sy’n ddi-drai. Clodforaf nawr yr enw mwyaf un, Ymunwch i foli sanctaidd Fab y dyn. Tragwyddol a fydd y gân, Tragwyddol a fydd y gân, Tragwyddol a fydd y gân, Tragwyddol a […]
Mae’n ddirgelwch mawr i mi Y gallai dwylo’r Arglwydd fod mor fach. Y bysedd bychan yn ymestyn yn y nos, Dwylo a osododd holl derfynau’r nef. Cytgan Haleliwia, Haleliwia, Cariad Nef Ddaeth i lawr i’n hachub ni. Haleliwia, Haleliwia, Mab ein Duw, Brenin tlawd gyda ni. Ti gyda ni. Mae’n ddirgelwch mawr i mi Iddo […]
Ti yw fy mhopeth, Fy nghariad i; Cyfaill mynwesol wyt ti. Arglwydd tyrd ataf, Cyffwrdd fi nawr. Ti yw yr Un a garaf. Cofleidia fi, caf brofi gwefr Curiad dy galon di. Gad i’m bwyso ar dy fynwes di, O fy Iesu, O fy Iesu. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, You are my passion: Noel a […]
Ti yw’r llew o lwyth Jwda, Yr Oen gafodd glwy’, Fe ddyrchefaist i’r Nefoedd – Teyrnasu wnei byth mwy; Ac ar ddiwedd yr oes wrth it adfer y byd Fe wnei gasglu’r cenhedloedd o’th flaen di. Caiff holl lygaid dynoliaeth eu hoelio Ar Oen Duw groeshoeliwyd in, A doethineb, a chariad, a thegwch Deyrnasa ‘r […]
Ti, Iesu, frenin nef, F’anwylyd i a’m Duw! Yn eithaf pell o dŷ fy Nhad, Mewn anial wlad, ‘rwy’n byw. Mewn ofnau rwyf a braw, Bob llaw gelynion sydd; O! addfwyn Iesu, saf o’m rhan, A thyn y gwan yn rhydd. Mae rhinwedd yn dy waed I faddau beiau mwy Nag y gall angel chwaith […]
Ti’n dweud “tyrd,” Ti yw Arglwydd y nefoedd; Ti’n dweud “tyrd” wrth blentyn euog fel fi; Ti’n dweud “tyrd” a dwi’n cuddio rhag dy wyneb ond rwyt Ti’n dal i alw, ac felly dwi’n dod. Wna i godi a rhedeg i fod yn dy gwmni i dderbyn dy faddeuant sy di brynu i mi; Mi […]
Ti’n cynnig rhyddid A bywyd llawn, Ti yn drugarog, Ti’n obaith pur, Ti’n hoffi maddau Ein beiau lu, Ti’n cynnig popeth sydd Ar fy nghyfer i. Er mod i’n diodde’ A chwympo’n fyr, Yn profi c’ledi Tu yma i’r nef, Dros dro yn unig Mae’r bywyd hwn, Cyn nefol wynfyd Sydd yn para byth. Tro […]
[Hebreaid 4:14-16, Alaw: Deio Bach] Pan mae pobl yn dy wrthod Cofia Iesu ar y groes Pan mae eraill yn dy wawdio Cofia iddo ddioddef loes. Cariodd Ef ein holl fethiannau, Teimlodd Ef y poen i gyd; Archoffeiriad ydyw’r Iesu Gyd-ddioddefa â’n gwendid ni. Pan mae bywyd yn dy brofi Dal dy afael yn dy […]
Trwy drugaredd, Arglwydd, Trwy dy ras, Tywallt d’ennaint Di Arnom ni nawr. Tynn fi’n ddyfnach, Arglwydd, Mwy bob dydd, Yn llif dy Ysbryd caf D’ewyllys Di. Tyred Ysbryd Glân, Tyred Ysbryd Glân, Tynn fi’n nes at Iesu yr Oen. Greg Leavers: By your mercy, Cyfieithiad Awdurdodedig: Cass Meurig © Greg Leavers