Am rif y saint y sydd o’u gwaeau’n rhydd, i ti a roes gerbron y byd eu ffydd, dy enw, Iesu, bendigedig fydd: Haleliwia, Haleliwia! Ti oedd eu craig, eu cyfnerth hwy a’u mur, ti, Iôr, fu’n Llywydd yn eu cad a’u cur, ti yn y ddunos oedd eu golau pur: Haleliwia, Haleliwia! Fendigaid gymun, […]
Ar asyn daeth yr Iesu cu drwy euraid borth Caersalem dref, a gwaeddai’r plant â’u palmwydd fry: Hosanna, Hosanna, Hosanna iddo ef! Fe fynnai’r Phariseaid sur geryddu’r plant a’u llawen lef, a rhoddi taw ar gân mor bur: Hosanna, Hosanna, Hosanna iddo ef! Ar hyn, atebodd lesu’r dorf, “Pe na bai’r plant mor llon eu […]
Ar ŵyl y cynhaeaf rhown ddiolch i’r Iôr am roi bara i’n cadw ni’n fyw; mae rhoddion yr Arglwydd o’n cwmpas yn stôr, rhoddwn ddiolch i’r Arglwydd ein Duw, ein Duw, rhown ddiolch i’r Arglwydd ein Duw. Efe roddodd heulwen a glaw yn ei bryd, ac aeddfedodd y dolydd a’r coed; cawn gasglu eleni holl […]
(Arian ac Aur) Aeth Pedr ac Ioan un dydd i’r demel mewn llawn hyder ffydd i alw ar enw Gwaredwr y byd, i ddiolch am aberth mor ddrud. Fe welsant ŵr cloff ar y llawr, yn wir, ‘roedd ei angen yn fawr; deisyfodd elusen, rhyw gymorth i’w angen, a Phedr atebodd fel hyn: “‘Does gennyf […]
Anfeidrol Greawdwr a Thad, rhagluniwr holl oesoedd y llawr: er trigo uwchlaw pob mawrhad, O derbyn ein diolch yn awr. Wrth gofio dy ddoniau erioed rhyfeddwn dosturi mor fawr: anfeidrol Greawdwr a Thad, rhagluniwr holl oesoedd y llawr. Afonydd dy gariad di-drai yw trefn dy ragluniaeth i gyd, ac nid yw eu ffrydiau yn llai […]
Am ddeffro’r gwanwyn yn ei bryd a gwyrth y geni ymhob crud, a gweld rhyfeddol liwiau’r byd, i ti y rhoddwn fawl. Am roi dy nodau ar bob tant, dy felys swyn ar wefus plant ac asbri hen yn nawns y nant, i ti y rhoddwn gân. Am gael ein dysgu, gam a cham, am […]
Arglwydd Iesu, bu hir ddisgwyl Am dy enedigaeth di, I ddwyn golau i fyd tywyll A thrugaredd Duw i ni. Ti yw nerth a gobaith pobloedd Sydd yn wan a llwm eu gwedd, Ti sy’n rhannu’r fendith nefol, Ti wyt frenin gras a hedd. Llywodraetha drwy dy Ysbryd Ein heneidiau gwamal ffôl, Helpa ni i […]
Ar ôl atgyfodiad Iesu, Treuliodd amser yn y byd Gyda’i ffrindiau a’u haddysgu Am y cariad mwyaf drud. Soniodd wrthynt bod ‘na helfa Ym mysg dynion gwlad a thref, A bod Duw am rannu iddynt Holl fendithion mwya’r nef. Cyn i’r Ysbryd Glân ymddangos Megis cyffro’r nefol dân I rhoi grym yr argyhoeddiad Ac eneiniad […]
Anwylaf Grist, dy sanctaidd ben dan ddrain fu drosof fi; dy fendith tywallt ar fy mhen im feddwl drosot ti. Anwylaf Grist, dy ddwylo gwyn a hoeliwyd drosof fi; dy fendith ar fy nwylo boed i weithio drosot ti. Anwylaf Grist, dy sanctaidd draed a hoeliwyd drosof fi; dy fendith tywallt ar fy nhraed fel […]
Ar ddydd ein bedydd gwnaethpwyd ni yn rhan o deulu dinas Duw; croesawyd ni i gorlan Crist, ac ef yw’n Bugail da a’n llyw. Ar ddydd ein bedydd galwyd ni yn blant y Tad a’i gariad ef, aelodau byw am byth i Grist ac etifeddion teyrnas nef. Ar ddydd ein bedydd rhwymwyd ni i gefnu […]