Anfon d’Ysbryd, O Dduw, arnom ni; ar Gymru ein gwlad, dir mor sych. Bydd drugarog a deffro dy eglwys Di, O Dduw, dechrau efo fi, O Dduw, dechrau efo fi. Tywallt d’Ysbryd, O Dduw, arnom ni; adfywia dy bobl i fyw fel Tydi er mwyn cael cynhaeaf fan hyn yn ein plith, O Dduw, dechrau […]
Arglwydd Iôr, yr wyt Ti gerllaw; Ti yw’r Un a’n crëodd; tyrd i’n llenwi nawr. Arglwydd Iôr, maddau inni’n rhad O mae arnom angen mwy o d’Ysbryd Glân. Dŷn ni’n diolch i Ti am fynd i Galfari. Dŷn ni’n diolch i Ti am agor y ffordd i ni. Dŷn ni’n diolch i Ti am dy holl roddion Di. Dŷn ni‘n diolch i Ti am ein caru ni. Arglwydd Iôr, yr wyt Ti gerllaw; Ti yw’r Un a’n crëodd; tyrd i’n llenwi nawr. Arglwydd Iôr, maddau inni’n rhad. O mae arnom angen mwy o d’Ysbryd Glân. Arglwydd wnei Di anfon mwy o d’Ysbryd Glân. © 2010 Andy Hughes
Arglwydd, rwyt mwy gwerthfawr nag arian, Arglwydd, rwyt mwy drudfawr nag aur, Arglwydd, rwyt yn harddach na gemau, ‘Does un peth yn y byd sy’n fwy na thi. Lord, you are more precious, Lynn DeShazo. Cyfieithiad awdurdodedig: Gwilym Ceiriog Evans © 1985 Integrity’s Hosanna! Music/Sovereign Music UK (Grym Mawl 1: 109)
Arglwydd, rwyt mor werthfawr i mi, Arglwydd, rwyt mor werthfawr i mi, Ac fe’th garaf, Ie, fe’th garaf, Am i ti ’ngharu i. Arglwydd, rwyt mor rasol dy ffyrdd, Arglwydd, rwyt mor rasol dy ffyrdd, Ac fe’th garaf, Ie, fe’th garaf, Am i ti ’ngharu i. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, (Lord, You are so precious […]
Arglwydd ti yw Brenin Nef, Mae dy enw goruwch pob enw arall; Mewn disgleirdeb yn teyrnasu, Wedi llwyr orchfygu Pob rhyw elyn sydd drwy’r byd i gyd. A chanwn ni mai ti yw’n Prynwr, Dyrchafwn di, sanctaidd Waredwr. Canwn drachefn ogoniant i Iesu; Gerbron ei orsedd fe blygwn yma ‘nawr. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, We […]
Atgyfododd, atgyfododd, Atgyfododd Iesu, mae yn fyw! Aeth o’i wirfodd i Galfaria, Lle tywalltodd rin ei waed; Drwy ei aberth bu’n fuddugol – Sathrodd Satan dan ei draed! Grym y bedd a’i llygredigaeth Fethodd afael ynddo ef; Cododd Crist! mae’n fyw byth bythoedd- Eistedd mae ar orsedd nef! Os y Crist ni atgyfododd, Nid oes […]