Dad, dy gariad yn glir ddisgleiria, trech na’r t’wyllwch, yn glir ddisgleiria; Iesu, goleuni’r byd, cofia ninnau, ti yw’r gwir a’n rhyddha o’n cadwynau: Grist, clyw ein cri, goleua ni. Air disglair Duw, dyro d’olau i Gymru heddiw, tyrd, Ysbryd Glân, rho dy dân i ni: rhed, afon gras, taena gariad ar draws y gwledydd, […]
Duw mawr y rhyfeddodau maith, rhyfeddol yw pob rhan o’th waith, ond dwyfol ras, mwy rhyfedd yw na’th holl weithredoedd o bob rhyw: pa dduw sy’n maddau fel tydi yn rhad ein holl bechodau ni? O maddau’r holl gamweddau mawr ac arbed euog lwch y llawr; tydi yn unig fedd yr hawl ac ni chaiff […]
Drugarog Arglwydd da, drwy’n gyrfa i gyd yr un wyt ti’n parhau er beiau’r byd; dy ddoniau, ddydd i ddydd, ddaw inni’n rhydd a rhad, mor dyner atom ni wyt ti, ein Tad. Agori di dy law a daw bob dydd ryw newydd ddawn gryfha, berffeithia’n ffydd; y ddaear gân i gyd a hyfryd yw […]
Dyma gariad, pwy a’i traetha? Anchwiliadwy ydyw ef; dyma gariad, i’w ddyfnderoedd byth ni threiddia nef y nef; dyma gariad gwyd fy enaid uwch holl bethau gwael y llawr, dyma gariad wna im ganu yn y bythol wynfyd mawr. Ymlochesaf yn ei glwyfau, ymgysgodaf dan ei groes, ymddigrifaf yn ei gariad, cariad mwy na hwn […]
Dyma Feibil annwyl Iesu, dyma rodd deheulaw Duw; dengys hwn y ffordd i farw; dengys hwn y ffordd i fyw; dengys hwn y golled erchyll gafwyd draw yn Eden drist, dengys hwn y ffordd i’r bywyd drwy adnabod Iesu Grist. CASGLIAD T. OWEN, 1820 priodolir i RICHARD DAVIES, 1793-1826 (Caneuon Ffydd 198)
Dyro inni weld o’r newydd mai ti, Arglwydd, yw ein rhan; aed dy bresenoldeb hyfryd gyda’th weision i bob man: tyrd i lawr, Arglwydd mawr, rho dy fendith yma nawr. Ymddisgleiria yn y canol, gwêl dy bobol yma ‘nghyd yn hiraethu, addfwyn Iesu, am gael gweld dy ŵyneb-pryd; golau cry’ oddi fry chwalo bob rhyw […]
Dyma iachawdwriaeth hyfryd wedi ei threfnu gan fy Nuw, ffordd i gadw dyn colledig, balm i wella dynol-ryw: dyma ddigon i un euog fel myfi. Wele foroedd o fendithion, O am brofi eu nefol flas: ni bydd diwedd byth ar lawnder iachawdwriaeth dwyfol ras; dyma ddigon, gorfoledda f’enaid mwy. WILLIAM JONES, 1784-1847 (Caneuon Ffydd 182)
Dewch, hen ac ieuainc, dewch at Iesu, mae’n llawn bryd; rhyfedd amynedd Duw ddisgwyliodd wrthym cyd: aeth yn brynhawn, mae yn hwyrhau; mae drws trugaredd heb ei gau. Dewch, hen wrthgilwyr trist, at Iesu Grist yn ôl; mae’i freichiau nawr ar led, fe’ch derbyn yn ei gôl: mae Duw yn rhoddi eto’n hael drugaredd i […]
Dechreuwch, weision Duw, y gân ddiddarfod, bêr; datgenwch enw mawr a gwaith a gras anhraethol Nêr. Am ei ffyddlondeb mawr dyrchefwch glod i’r nen: yr hwn a roes addewid lawn yw’r hwn a’i dwg i ben. Mae gair ei ras mor gryf â’r gair a wnaeth y nef; y llais sy’n treiglo’r sêr di-rif roes […]
Disgwyliaf o’r mynyddoedd draw: ble daw im help ‘wyllysgar? Yr Arglwydd, rhydd im gymorth gref, hwn a wnaeth nef a daear. Dy droed i lithro, ef nis gad, a’th Geidwad fydd heb huno; wele dy Geidwad, Israel lân, heb hun na hepian arno. Ar dy law ddehau mae dy Dduw, yr Arglwydd yw dy Geidwad; […]