Hwn ydyw’r dydd o ras ein Duw, yr amser cymeradwy yw; brysiwn i roi’n calonnau i gyd i’r hwn fu farw dros y byd. Gwelwch yr aberth mawr a gaed, mae gobaith ichwi yn ei waed; O dowch i mewn heb oedi’n hwy, i wledda ar haeddiant marwol glwy’. Dowch, bechaduriaid, dowch i’r wledd, mae’r […]
Heddiw cododd Crist yn fyw, Haleliwia! Llawen ddydd o foliant yw, Haleliwia! Dioddefodd angau loes, Haleliwia, er ein prynu ar y groes, Haleliwia! Canwn foliant iddo ef, Haleliwia! Crist ein Brenin mawr o’r nef, Haleliwia!; Dringodd fynydd Calfarî, Haleliwia! Aeth drwy’r bedd i’n hachub ni, Haleliwia! Trwy ei loes a’i boenau mawr, Haleliwia! daeth â […]
Heddiw’r ffynnon a agorwyd, disglair fel y grisial clir; y mae’n llanw ac yn llifo dros wastadedd Salem dir: bro a bryniau a gaiff brofi rhin y dŵr. Minnau ddof i’r ffynnon loyw darddodd allan ar y bryn, ac mi olchaf f’enaid euog ganwaith yn y dyfroedd hyn: myrdd o feiau dafla’ i lawr i […]
Hwn yw y sanctaidd ddydd, gorffwysodd Duw o’i waith; a ninnau nawr, dan wenau Duw, gorffwyswn ar ein taith. Hwn yw’r moliannus ddydd, cydganodd sêr y wawr; mae heddiw lawnach testun cân, molianned pawb yn awr. Hwn yw y dedwydd ddydd, daeth Crist o’i fedd yn fyw; O codwn oll i fywyd gwell, i ryddid […]
Hedd fel yr afon, Cariad mor gadarn, Fe chwyth gwynt dy Ysbryd Ar hyd a lled y byd. Ffynnon y bywyd, Dyfroedd bywiol clir; Tyrd Ysbryd Glân Anfon dy dân i lawr. John Watson: Peace like a river, cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones © Ampelos Music/Thankyou Music 1987. Gwein. Gan Copycare (Grym mawl 1: 135)
Heddiw, a yw’n wir Y gall gweddi’r gwan Roi i’r ddaear law, Chwalu gwledydd mawr? Dyna’r gwir, ac rwy’n ei gredu; Rwy’n byw er dy fwyn. Ydy’, mae yn wir. Fe all gweddi wan Godi’r meirw cudd, Rhoddi’r dall yn rhydd. Dyna’r gwir ac rwy’n ei gredu, Rwy’n byw er dy fwyn. Byddaf yn un, […]