Y cysur i gyd sy’n llanw fy mryd fod gennyf drysorau uwch gwybod y byd; ac er bod hwy ‘nghudd, nas gwêl neb ond ffydd, ceir eglur ddatguddiad ohonynt ryw ddydd. Hiraethu ‘rwy’n brudd am fwyfwy o ffydd a nerth i wrthsefyll ac ennill y dydd; Duw ffyddlon erioed y cefais dy fod, dy heddwch […]
(Iesu yn gysgod) Y mae syched ar fy nghalon heddiw am gael gwir fwynhau dyfroedd hyfryd ffynnon Bethlem – dyfroedd gloyw sy’n parhau; pe cawn hynny ‘mlaen mi gerddwn ar nhaith. Y mae gwres y dydd mor danbaid, grym fy nwydau fel y tân, a gwrthrychau gwag o’m cwmpas am fy rhwystro i fynd ymlaen; […]
Yn Eden, cofiaf hynny byth, bendithion gollais rif y gwlith; syrthiodd fy nghoron wiw. Ond buddugoliaeth Calfarî enillodd hon yn ôl i mi: mi ganaf tra bwyf byw. Ffydd, dacw’r fan, a dacw’r pren yr hoeliwyd arno D’wysog nen yn wirion yn fy lle; y ddraig a ‘sigwyd gan yr Un, cans clwyfwyd dau, concwerodd […]
Ymhlith holl ryfeddodau’r nef hwn yw y mwyaf un gweld yr anfeidrol, ddwyfol Fod yn gwisgo natur dyn. Ni chaiff fod eisiau fyth, tra bo un seren yn y nef, ar neb o’r rhai a roddo’u pwys ar ei gyfiawnder ef. Doed y trueiniaid yma ‘nghyd, finteioedd heb ddim rhi’; cânt eu diwallu oll yn […]
Y mae’r dyddiau’n dod i ben, dyddiau hyfryd, y dyrchefir Brenin nen dros yr hollfyd; fe â dwyfol angau drud pen Calfaria drwy ardaloedd pella’r byd: Halelwia! WILLIAM WILLIAMS, 1717-91 (Caneuon Ffydd 267; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 384)
Ysbryd Glân y bywiol Dduw, Disgyn arnaf fi; Ysbryd Glân y bywiol Dduw, Disgyn arnaf fi; Rwyf am i ti ’meddiannu i. Ysbryd Glân fy Nuw, Disgyn arnaf fi. Paul Armstrong: Spirit of the Living God, cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones Hawlfraint © 1984 Restoration Music Ltd/Sovereign Music UK Grym mawl 1: 149
Yr Arglwydd Dduw sydd gyda thi, Y Brenin ydyw Ef; Fe orfoledda ynot ti, A’th adnewyddu ynddo’i hun; Fe lawenycha dy Dduw Gan ganu cân, canu cân, Canu cân, canu cân, Canu cân. The Lord your God is in your midst: anad. Cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones (Grym mawl 1: 153)
Y mae nerth yn enw Iesu – Credu wnawn ynddo Ef. Ac fe alwn ar enw Iesu: ‘Clyw ein llef Frenin nef! Ti yw’r un wna i’r diafol ffoi, Ti yw’r un sy’n ein rhyddhau.’ Does un enw arall sydd i’w gymharu  Iesu. Y mae nerth yn enw Iesu – Cleddyf yw yn fy […]
Ysbryd Duw, tyrd chwytha arna’i nawr, Bywyd newydd rho i’m henaid i. Tyrd ac adnewydda ’nghalon friw Gyda phresenoldeb f’Arglwydd byw. Gwna i’th Air fywiogi mywyd i, Rho i’m ffydd i weld Dy law ar waith. Gwna fi’n danbaid dros dy burdeb llwyr, Ysbryd Duw tyrd, chwytha arna i. Ysbryd Duw, cartrefa ynof fi, Dangos […]