Ysbryd graslon, rho i mi fod yn raslon fel tydi; dysg im siarad yn dy iaith, boed dy ddelw ar fy ngwaith; gwna i holl addfwynder f’oes ddweud wrth eraill werth y groes. Ysbryd geirwir, rho i mi fod yn eirwir fel tydi; trwy’r ddoethineb oddi fry gwna fi’n dirion ac yn gry’; gwna fi’n […]
Ynot, Arglwydd, gorfoleddwn, yn dy gariad llawenhawn, cariad erys fyth heb ballu a’i ffynhonnau fyth yn llawn: Frenin nef a daear lawr, molwn byth dy enw mawr. Er i ti reoli bydoedd, ymhob storom lem a ddaw cedwi’r weddw dan dy gysgod a’r amddifad yn dy law: Frenin nef a daear lawr, molwn byth dy […]
Yr Arglwydd a feddwl amdanaf, a dyna fy nefoedd am byth; yng nghysgod yr orsedd gadarnaf mae’n ddigon i’r gwannaf gael nyth; cyn duo o’r cwmwl tymhestlog ei adain sy’n cuddio fy mhen; caf noddfa’n ei fynwes drugarog pan siglo colofnau y nen. Fy Arglwydd sy’n gwisgo y lili, mae’n cofio aderyn y to; cyn […]
Ymgrymwn ger dy fron ti Dduw ein tadau; O llanw’r oedfa hon â’th ddylanwadau: o blith teganau ffôl i wres dy gynnes gôl O galw ni yn ôl o’n holl grwydriadau. Allorau fwy na mwy gaed ar ein llwybrau, a rhoesom arnynt hwy ein hebyrth gorau: ond trodd addoli’r byd yn golled drom i gyd; […]
Ynghanol nos, oleuni mwyn y nef, O arwain fi; mae’n dywyll iawn, a minnau ‘mhell o dref, O arwain fi; O cadw ‘nhraed, ni cheisiaf weled mwy i ben y daith: un cam a bodlon wy’. Bu amser na weddïwn am dy wawr i’m harwain i; chwenychwn gael a gweld fy ffordd: yn awr O […]
Ymlaen af dros wastad a serth ar lwybrau ewyllys fy Nhad, a llusern ei air rydd im nerth i ddiffodd pob bygwth a brad; daw yntau ei hun ar y daith i’m cynnal o’i ras di-ben-draw, a hyd nes cyflawni fy ngwaith fe gydiaf, drwy ffydd, yn ei law. Ymlaen af â’m hyder yn Nuw […]
Yn y dyfroedd mawr a’r tonnau, nid oes neb a ddeil fy mhen ond fy annwyl Briod Iesu a fu farw ar y pren: cyfaill yw yn afon angau, ddeil fy mhen i uwch y don; golwg arno wna im ganu yn yr afon ddofon hon. O anfeidrol rym y cariad, anorchfygol ydyw’r gras, digyfnewid […]
Yn dy waith y mae fy mywyd, yn dy waith y mae fy hedd, yn dy waith yr wyf am aros tra bwy’r ochor hyn i’r bedd; yn dy waith ar ôl mynd adref drwy gystuddiau rif y gwlith: moli’r Oen fu ar Galfaria – dyma waith na dderfydd byth. EVAN GRIFFITHS, 1795-1873 (Caneuon Ffydd 734)
Y Gŵr fu ar Galfaria a welir ddydd a ddaw yn eistedd ar ei orsedd a’r glorian yn ei law, a phawb a gesglir ato i’w pwyso ger ei fron: O f’enaid cais dduwioldeb a dro y glorian hon. Mae cofio dydd y cyfrif yr hwn a ddaw cyn hir, yn uchel alw arnaf i […]
Yma’n hedd y mynydd sanctaidd, Iesu annwyl, wele ni, gad i’th weision weld o’r newydd fawredd dy ogoniant di. Cuddier ni dan ddwyfol adain yn dy gwmni, Iesu mawr, torred arnom drwy’r cymylau glaer oleuni’r nefol wawr. Tyner eiriau’r Tad fo’n disgyn o’r uchelder ar ein clyw yn cyhoeddi bod i’r euog hedd tragwyddol ym […]