Tydi, a ddaethost gynt o’r nef i ennyn fflam angerddol gref, O cynnau dân dy gariad di ar allor wael fy nghalon i. Boed yno er gogoniant Duw, yn fflam anniffoddadwy, fyw, yn dychwel i’w ffynhonnell fyth mewn cariad pur a mawl di-lyth O Iesu cadarnha fy nod i hir lafurio er dy glod, i […]
Tyred, Arglwydd, tyrd yn fuan, Dim ni’m boddia dan y ne’, Dim ond ti a ddeil fy ysbryd Gwan, lluddedig, yn ei le; Neb ond Ti a gyfyd f’enaid Llesg o’r pydew du i’r lan; Os Tydi sy’n gwneud im ochain, Ti’m gwnei’n llawen yn y man. Hwyl fy enaid sy wrth d’ewyllys, Fel y […]
Tyred, Iesu, i’r anialwch, at bechadur gwael ei lun, ganwaith ddrysodd mewn rhyw rwydau – rhwydau weithiodd ef ei hun; llosg fieri sydd o’m cwmpas, dod fi i sefyll ar fy nhraed, moes dy law, ac arwain drosodd f’enaid gwan i dir ei wlad. Manna nefol sy arna’i eisiau, dŵr rhedegog, gloyw, byw sydd yn […]
Wel, f’enaid, dos ymlaen, ‘dyw’r bryniau sydd gerllaw un gronyn uwch, un gronyn mwy, na hwy a gwrddaist draw: dy anghrediniaeth gaeth a’th ofnau maith eu rhi’ sy’n peri it feddwl rhwystrau ddaw yn fwy na rhwystrau fu. ‘R un nerth sydd yn fy Nuw a’r un yw geiriau’r nef, ‘r un gras, a’r un […]
Wel, mae gen i neges i’r byd – Gwrandewch nawr ar eiriau ‘nghân. Dwi ddim yn bregethwr mawr, Ond mae nghalon i ar dân. Nid fi yw yr unig un, Mae’r fflam ar led drwy’r byd. Cenhedlaeth o bobl sy’n hiraethu Am gael gweld diwygiad mawr yn dod. Haleliwia, Pobl sy’n cael eu bendithio. Haleliwia, […]
Wrth rodio gyda’r Iesu ar y daith, mae’r ofnau yn diflannu ar y daith; mae gras ei dyner eiriau, a golau’r ysgrythurau, a hedd ei ddioddefiadau ar y daith, yn nefoedd i’n heneidiau ar y daith. Wrth rodio gyda’r Iesu ar y daith, ein calon sy’n cynhesu ar y daith: cawn wres ei gydymdeimlad, a’n […]
Y cysur i gyd sy’n llanw fy mryd fod gennyf drysorau uwch gwybod y byd; ac er bod hwy ‘nghudd, nas gwêl neb ond ffydd, ceir eglur ddatguddiad ohonynt ryw ddydd. Hiraethu ‘rwy’n brudd am fwyfwy o ffydd a nerth i wrthsefyll ac ennill y dydd; Duw ffyddlon erioed y cefais dy fod, dy heddwch […]
Y Gŵr fu ar Galfaria a welir ddydd a ddaw yn eistedd ar ei orsedd a’r glorian yn ei law, a phawb a gesglir ato i’w pwyso ger ei fron: O f’enaid cais dduwioldeb a dro y glorian hon. Mae cofio dydd y cyfrif yr hwn a ddaw cyn hir, yn uchel alw arnaf i […]
(Iesu yn gysgod) Y mae syched ar fy nghalon heddiw am gael gwir fwynhau dyfroedd hyfryd ffynnon Bethlem – dyfroedd gloyw sy’n parhau; pe cawn hynny ‘mlaen mi gerddwn ar nhaith. Y mae gwres y dydd mor danbaid, grym fy nwydau fel y tân, a gwrthrychau gwag o’m cwmpas am fy rhwystro i fynd ymlaen; […]
Y mae ysbryd yr Arglwydd Dduw arnaf fi, Oherwydd i’r Arglwydd f’eneinio, I ddwyn newydd da i’r darostyngedig, A chysuro’r toredig o galon; I gyhoeddi rhyddid i’r caethion, Rhoi gollyngdod i’r carcharorion, I gyhoeddi blwyddyn ffafr yr Arglwydd A dydd dial ein Duw ni. Cytgan: I ddiddanu pawb sy’n galaru, A gofalu am alarwyr Seion. […]