O Iesu, Haul Cyfiawnder glân, llanw mron â’th nefol dân; disgleiria ar fy enaid gwan nes dod o’r anial fyd i’r lan. Enynna ‘nghalon, Iesu cu, yn dân o gariad atat ti, a gwna fi’n wresog yn dy waith tra byddaf yma ar fy nhaith. A gwna fy nghalon dywyll i yn olau drwy d’oleuni […]
O Iesu, maddau fod y drws ynghau a thithau’n curo, curo dan dristáu: fy nghalon ddrwg a roddodd iti glwyf, gan g’wilydd ŵyneb methu agor ‘rwyf. Ti biau’r tŷ; dy eiddo yw, mi wn; ond calon falch sydd am feddiannu hwn: mae’n cadw’i Harglwydd o dan oerni’r ne’, gelynion i ti sy’n y tŷ’n cael […]
O Iesu, mi addewais dy ddilyn drwy fy oes; bydd di yn fythol-agos, Waredwr mawr y groes: nid ofnaf sŵn y frwydyr os byddi di gerllaw; os byddi di’n arweinydd ni chrwydraf yma a thraw. Rho brofi dy gymdeithas; mor agos ydyw’r byd a’i demtasiynau cyfrwys yn ceisio denu ‘mryd; gelynion sydd yn agos o’m […]
O na bawn yn fwy tebyg i Iesu Grist yn byw – yn llwyr gysegru ‘mywyd i wasanaethu Duw: nid er ei fwyn ei hunan y daeth i lawr o’r ne’ ; ei roi ei hun yn aberth dros eraill wnaeth efe. O na bawn i fel efe, O na bawn i fel efe, O […]
O! sancteiddia f’enaid Arglwydd, ymhob nwyd ac ymhob dawn; rho egwyddor bur y nefoedd yn fy ysbryd llesg yn llawn: n’ad im grwydro draw nac yma fyth o’m lle. Ti dy hunan all fy nghadw rhag im wyro ar y dde, rhedeg eilwaith ar yr aswy, methu cadw llwybrau’r ne’: O tosturia, mewn anialwch rwyf […]
O’r fath newid rhyfeddol a wnaed ynof fi, daeth Iesu i’m calon i fyw; torrodd gwawr ar fy enaid, atebwyd fy nghri, daeth Iesu i’m calon i fyw. Daeth Iesu i’m calon i fyw, daeth Iesu i’m calon i fyw, cwyd llawenydd fy mron megis ton ar ôl ton, daeth Iesu i’m calon i fyw. […]
Oer wyf a gwan, ddoi di yn nes? Estyn dy fflam, rho im dy wres. Llanw ‘mywyd â chariad Duw Llanw’m calon i â ffydd. Ysbryd, llosga’n fflam A thro fy nos yn ddydd. Ennyn y fflam, ennyn y fflam. Gwna fi’n danbaid fel o’r blaen – Grist, O! tania fi. Ennyn y fflam, ennyn […]
Os gwelir fi bechadur, ryw ddydd ar ben fy nhaith rhyfeddol fydd y canu a newydd fydd yr iaith yn seinio buddugoliaeth am iachawdwriaeth lawn heb ofni colli’r frwydyr na bore na phrynhawn. Fe genir ac fe genir yn nhragwyddoldeb maith os gwelir un pererin mor llesg ar ben ei daith a gurwyd mewn tymhestloedd […]
Os Iesu Grist yn dlawd a ddaeth heb le i roi’i ben i lawr, ai gormod yw i’r fynwes hon roi cartref iddo nawr? Os gwawdiwyd enw Iesu gynt gan ei elynion cas, ai gormod i’w gyfeillion hoff yw canmol gwaith ei ras? Os dygodd Iesu addfwyn faich euogrwydd mawr ein bai, ai gormod yw […]
Pa bryd y cedwi’r bobol, drugarog Dduw, pa bryd? Nid mawrion, heb y miloedd, nid beilchion, ond y byd: blodau dy galon yw’r rhai hyn; gânt hwy ddiflannu megis chwyn heb weled gwawr o obaith gwyn? Duw gadwo’r bobol! Gaiff trosedd fagu trosedd a’r cryf gryfhau o hyd? A fynni di i lafur fyth gynnal […]