Dyma’r rhyfeddod mwyaf un Dy fod, O! Dduw, yn Un yn Dri, Yn Drindod Sanctaidd – rwyt yn Dad, Yn Ysbryd ac yn Fab; Ein Tad o’r nef, yr Ydwyf mawr, Yn wir Fab Duw, yn Fab y Dyn, Ac eto’n rhan o’r cynllun hwn – Yr Ysbryd yma’n awr. O! Dduw, fe garem weld […]
Duw! er mor eang yw dy waith, Yn llanw’r holl greadigaeth faith, ‘D oes dim drwy waith dy ddwylaw oll At gadw dyn fu gynt ar goll. Dyma lle mae d’anfeidrol ras I’r eitha’n cael ei daenu i maes; A holl lythrennau d’enw a gawn Yn cael eu dangos yma’n llawn. Ar Galfari, rhwng daer […]
Darfu fy nerth, ‘rwy’n llwfwrhau, O! gwêl yn glau f’anghenraid; Nerth mawr, difesur, fel y môr, A feddi’n stôr i’r gweiniaid. Ti’m tynaist i o ganol tân, A mi o’r blaen yn ofni; Gwna hynny eto’r funud hon, Mae f’enaid bron â threngi. Mi bwysaf atat eto’n nes; Pa les im ddigalonni? Mae sôn amdanat […]
Dinas sydd yn disgleirio Gyda harddwch Oen ein Duw. Mae ‘na ffordd, cawn fynd yno, Ein tragwyddol gartref yw. O’th blegid di, o’th blegid di, Fe’n ceraist yn rhad, Fe roddaist dy waed. Ni fydd poen, ni fydd gofid, Ni fydd wylo, ni fydd clwy. Derfydd drwg, derfydd dioddef, A marwolaeth ni bydd mwy. O’th […]
Dy glwyfau yw fy rhan, Fy nhirion Iesu da; Y rhain yw nerth fy enaid gwan, Y rhain a’m llwyr iachâ: Er saled yw fy nrych, Er tloted wyf yn awr, Fy llenwi gaf â llawnder Duw, A’m gweled fel y wawr. Mi brofais Dduw yn dda, Fy nhirion raslon Dad, Yn maddau im fy meiau […]
Dim ond trwy ras cawn fynediad, Dim ond trwy ras ‘down o’th flaen; Nid am in haeddu dy gariad, Deuwn drwy waed pur yr Oen. Ti sy’n ein tywys ni atat, Cawn ddod ger dy fron; Ti sy’n ein galw i’th gwmni, A down trwy dy ras yn llon, Down trwy dy ras yn llon. […]
Daw brenhinoedd o bob gwlad, Plygant oll o’th flaen ryw ddydd. Bydd pob llwyth a phob un iaith Yn addoli’n Duw yn rhydd. O Seion y daw – Fe’i clywir drwy’r byd, Y gân am dy groes, drwy’r ddaear i gyd. O addfwyn Oen Trwy dy aberth di achubiaeth gaed. (Grym Mawl 2: 82) Robin […]
Dof Nefol Dad o’th flaen i’th foli di Dyrchafaf d’enw di yn awr. Mae d’Air fel craig, o oes i oes yr un, Cyflawnir d’addewidion mawr. Yn dy faddeuant gorfoleddaf fi, Mawr yw dy iachawdwriaeth di, Mawr yw dy gariad roddodd Grist i’n byd Yn Iawn dros ein pechodau du. Molaf Ef â’m nerth, gyda […]
Pan rwy’n galw rwyt ti yn ateb Pan rwy’n syrthio, rwyt yna gerllaw Do achubaist fi o dywyllwch I fyw bywyd o obaith a mawl. Trwy ras rwy’n rhydd, Achubaist fi, Rhof fy hun i ti. Ei gariad rydd wefr sydd uwchlaw pob dim Ei obaith sy’n gryfach na phopeth i mi Roeddwn ar goll, […]
Da yw Duw! Da bob dydd! Fe roddodd gân o fawl yn fy nghalon i; Da yw Duw, da bob dydd, Try dywyllwch nos yn olau dydd; Da yw Duw, da yw Duw, da bob dydd. Pan yn cerdded yn y dyffryn A rhyw gysgodion dros y lle, Nid oes ofn, Duw sy’n arwain, Rwyt […]