Drwy gyfnodau o dywyllwch Drwy y dyddiau trist eu gwedd, Rhoddaist nerth i’r rhai lluddedig I’th glodfori di mewn hedd. Rhoist i’n olau a llawenydd Yn dy gwmni cilia ofn; Iesu, cedwaist dy addewid, Rhennaist ras o’th galon ddofn. Profwyd o gynhaliaeth natur Gwelwyd harddwch yn y wlad, Ti a luniodd y tymhorau Molwn Di, […]
Duw fo yn fy mhen ac yn fy ymresymiad; Duw fo yn fy nhrem ac yn f’edrychiad; Duw fo yn fy ngair ac yn fy siarad; Duw fo yn fy mron ac yn fy nirnad; Duw ar ben fy nhaith, ar fy ymadawiad. HORE BEATE MARIE VIRGINIS, 1514 cyf. R. GLYNDWR WILLIAMS © Mrs Mair […]
Dyma’r dydd i gyd-foliannu Iesu, Prynwr mawr y byd, dyma’r dydd i gyd-ddynesu mewn rhyfeddod at ei grud; wele’r Ceidwad yma heddiw’n faban bach. Daeth angylion gynt i Fethlem i groesawu Brenin nef, daeth y doethion a’r bugeiliaid yno at ei breseb ef; deuwn ninnau heddiw’n wylaidd at ei grud. Deued dwyrain a gorllewin i […]
Dysg imi garu Cymru, ei thir a’i broydd mwyn, rho help im fod yn ffyddlon bob amser er ei mwyn; O dysg i mi drysori ei hiaith a’i llên a’i chân fel na bo dim yn llygru yr etifeddiaeth lân. Dysg imi garu cyd-ddyn heb gadw dim yn ôl, heb ildio i amheuon nac unrhyw […]
Duw sy’n codi ei dŷ, Duw sy’n codi ei dŷ Duw sy’n codi ei dŷ ar y graig; Y mae’n dŷ o feini byw, Daw o law’r tragwyddol Dduw, Duw sy’n codi ei dŷ ar y graig. O! mor gadarn yw’r tŷ, O! mor gadarn yw’r tŷ, O! mor gadarn yw’r tŷ ar y graig; […]
Dy deyrnas doed, O! Dduw, Boed Crist yn llyw yn awr; Â’th wialen haearn tor Holl ormes uffern fawr. Ple mae brenhiniaeth hedd, A’r wledd o gariad byw? Pryd derfydd dicter du, Fel fry yng ngwyddfod Duw? Pryd daw yr hyfryd ddydd Pan na bydd brwydyr lem, A thrawster a phob gwanc Yn dianc rhag […]
Dyn dïeithir ydwyf yma, Draw mae ‘ngenedigol wlad; Draw dros foroedd mawr tymhestlog, Ac o fewn i’r Ganaan rad: Stormydd hir o demtasiynau A’m curodd i fel hyn mor bell; Tyred, ddeau wynt pereiddiaf, Chwyth fi i’r Baradwys well. Ac er gwaethaf grym y tonnau Sydd yn curo o bob tu, Dof trwy’r stormydd, dof […]
Dacw’r ardal, dacw’r hafan, Dacw’r nefol hyfryd wlad, Dacw’r llwybyr pur yn amlwg, ‘R awron tua thŷ fy Nhad; Y mae hiraeth yn fy nghalon, Am fod heddiw draw yn nhref, Gyda’r myrdd sy’n canu’r anthem, Anthem cariad “Iddo Ef”. Mae fy hwyliau heddiw’n chware’n, Llawen yn yr awel bur, Ac ‘r wy’n clywed sŵn […]
Dacw gariad, dacw bechod, Heddiw ill dau ar ben y bryn; Hwn sydd gryf, hwnacw’n gadarn, Pwy enilla’r ymgyrch hyn? Cariad, cariad Wela’i ‘n perffaith gario’r dydd. Dringa’ i fyny i’r Olewydd, I gael gweled maint fy mai; Nid oes arall, is yr wybren, Fan i’w weled fel y mae; Annwyl f’enaid Yno’n chwysu dafnau […]
Wedi dod i dy dŷ, Dyma fi i roi mawl i ti; Wedi bod trwy y byd, Does ‘na neb sydd yn debyg i ti. Ti yw’r un sy’n gwneud fy nghalon yn llawen, Er gwaetha’ stormydd yn fy mywyd, Fy moliant rôf i ti a thi yn unig, Ti sydd wedi rhoi d’addewid. Cytgan: […]