Dyhewn am dafodau tân i’n cyffwrdd ninnau, I’n troi yn dystion tanbaid drosot ti. Sychedwn am adfywiad; gwyrthiau’r Ysbryd Sanctaidd, Hiraethwn weld ‘r afradlon yn dod nôl. Mae’n holl obeithion ni ynot ti, Pa bryd y daw ‘rhain yn wir? Deled dy Ysbryd mewn grymuster, Rho inni weledigaeth newydd, Deled dy Deyrnas yw ein gweddi, […]
Dragwyddol Dduw, addolwn di; Rhoist dy Fab i’n hachub ni. Gair ein Duw luniodd y byd, Rhoes ei waed yn aberth drud. Ddisglair Un, y Seren Fore, Fe’th addolwn, fe’th fawrygwn. Ynom ni fe wawriodd golau Iesu Grist, addolwn Di. Cyfieithiad Cymraeg Awdurdodedig : Arfon Jones (Almighty God, Austin Martin) Hawlfraint © 1983 ac yn y […]
Da yw bod wrth draed yr Iesu ym more oes; ni chawn neb fel ef i’n dysgu ym more oes; dan ei groes mae ennill brwydrau a gorchfygu temtasiynau; achos Crist yw’r achos gorau ar hyd ein hoes. Cawn ei air i buro’r galon ym more oes, a chysegru pob gobeithion ym more oes; wedi […]
Draw, draw ymhell mae gwyrddlas fryn tu faes i fur y dref lle’r hoeliwyd Iesu annwyl gynt o’i fodd i’n dwyn i’r nef. Ni wyddom ni, ni allwn ddweud faint oedd ei ddwyfol loes, ond credu wnawn mai drosom ni yr aeth efe i’r groes. Bu farw er mwyn maddau bai a’n gwneud bob un […]
Disgleiried golau’r groes ar uchelfannau’r byd; aed Mab y Dyn o oes i oes yn fwy ei fri o hyd. Gogoniant byth i’r Oen, ar aur delynau’r nef: ei groes sy’n gwella’r byd o’i boen – gogoniant iddo ef! Doed gorseddfeinciau’r byd dan ei awdurdod bur, a doed y bobloedd o un fryd i’w garu […]
Daeth eto fore Saboth, boed arnom yn dy dŷ brydferthwch dy sancteiddrwydd a’r llewyrch oddi fry; dy air y bore cyntaf aeth drwy y gwagle’n wawr: tywynna arnom ninnau, O Arglwydd, yma nawr. Daeth eto fore Saboth, O Iesu, rho i ni gael blas ar wrando’r ddameg, fel gynt ar lân y lli; awelon Galilea […]
Duw pob gras a Duw pob mawredd, cadarn fo dy law o’n tu; boed i’th Eglwys wir orfoledd a grymuster oddi fry: rho ddoethineb, rho wroldeb, ‘mlaen ni gerddwn oll yn hy. Lluoedd Satan sydd yn ceisio llwyr wanhau ein hegwan ffydd; ofnau lawer sy’n ein blino, o’n caethiwed rho ni’n rhydd: rho ddoethineb, rho […]
Dyro dangnefedd, O Arglwydd, i’r sawl a gred ynot ti; dyro, dyro dangnefedd, O Arglwydd, dyro dangnefedd. CYMUNED TAIZÉ cyf. MAWL AC ADDOLIAD, 1996 (Caneuon Ffydd 790)
Dragwyddol Dad, dy gariad mawr sy’n gwylied drosom ar bob awr; ar fôr a thir, ar fryn a glan, ym merw’r dref, mewn tawel fan; dy nawdd rho heddiw i’r rhai sydd yn arddel ynot ti eu ffydd. Dragwyddol Geidwad o’th fawr ras ddioddefaist lid gelynion cas, ar dy drugaredd nid oes ball a’th eiriol, […]
Deuwch i ganu, deuwch i foli y Ceidwad a’n carodd ni; plant bach y byd sy’n ei ddyled o hyd, mae ef yn ein caru i gyd. Tosturio wnaeth wrth bawb yn ddiwahân, rhown iddo ein moliant a’n cân, deuwch i ganu, deuwch i foli am iddo ein caru ni. Deuwch i ganu, deuwch i […]