O’r nef mi glywais newydd fe’m cododd ar fy nhraed – fod ffynnon wedi ei hagor i gleifion gael iachâd; fy enaid, rhed yn ebrwydd, a phaid â llwfwrhau, o’th flaen mae drws agored na ddichon neb ei gau. O Arglwydd, dwg fy ysbryd i’r ffynnon hyfryd, lân; ysgafnach fydd fy meichiau, melysach fydd fy […]
O am dafodau fil mewn hwyl i seinio gyda blas ogoniant pur fy Mhrynwr gwiw a rhyfeddodau’i ras. Fy ngrasol Arglwydd i a’m Duw, rho gymorth er dy glod i ddatgan mawl i’th enw gwiw drwy bobman is y rhod. Dy enw di, O Iesu mawr, a lawenycha’n gwedd; pêr sain i glust pechadur yw, […]
O’r nef y daeth, Fab di-nam, i’r byd yn dlawd heb feddu dim, i weini’n fwyn ar y gwan, ei fywyd roes i ni gael byw. Hwn yw ein Duw, y Brenin tlawd, fe’n geilw oll i’w ddilyn ef, i fyw bob dydd fel pe’n anrheg wiw o’i law: fe roddwn fawl i’r Brenin tlawd. […]
O llawenhewch! Crist sydd ynom, mae gobaith nefoedd ynom ni: mae’n fyw! mae’n fyw! mae’i Ysbryd ynom, O codwn nawr yn fyddin, codwn ni! Fe ddaeth yr amser inni gerdded drwy y tir, fe rydd i ni bob man sethrir dan ein traed. Marchoga mewn gogoniant, concrwn wrth ei ddilyn ef; fe wêl y byd […]
O agor fy llygaid i weled dirgelwch dy arfaeth a’th air, mae’n well i mi gyfraith dy enau na miloedd o arian ac aur-, y ddaear â’n dân, a’i thrysorau, ond geiriau fy Nuw fydd yr un; y bywyd tragwyddol yw ‘nabod fy Mhrynwr yn Dduw ac yn ddyn. Rhyfeddod a bery’n ddiddarfod yw’r ffordd […]
O Arglwydd, galw eto fyrddiynau ar dy ôl, a dryllia’r holl gadwynau sy’n dal eneidiau’n ôl; a galw hwynt o’r dwyrain, gorllewin, gogledd, de, i’th Eglwys yn ddiatal – mae digon eto o le. DAFYDD JONES, 1711-77 (Caneuon Ffydd 249)
O dewch i’r dyfroedd, dyma’r dydd, yr Arglwydd sydd yn galw; tragwyddol ras yr Arglwydd Iôr sydd fel y môr yn llanw. Heb werth nac arian, dewch yn awr, mae golud mawr trugaredd â’i ŵyneb ar yr euog rai – maddeuant a’i ymgeledd. O dewch a phrynwch win a llaeth, wel dyma luniaeth nefol; prynwch […]
O am dreiddio i’r adnabyddiaeth o’r unig wir a bywiol Dduw i’r fath raddau a fo’n lladdfa i ddychmygion o bob rhyw; credu’r gair sy’n dweud amdano a’i natur ynddo amlwg yw, yn farwolaeth i bechadur heb gael Iawn o drefniad Duw. Yn yr adnabyddiaeth yma mae uchel drem yn dod i lawr, dyn yn […]
O am gael ffydd i edrych gyda’r angylion fry i drefn yr iachawdwriaeth, dirgelwch ynddi sy: dwy natur mewn un person yn anwahanol mwy, mewn purdeb heb gymysgu yn eu perffeithrwydd hwy. O f’enaid, gwêl addasrwydd y person dwyfol hwn, dy fywyd mentra arno a bwrw arno’th bwn; mae’n ddyn i gydymdeimlo â’th holl wendidau […]
O’th flaen, O Dduw, ‘rwy’n dyfod gan sefyll o hir-bell; pechadur yw fy enw, ni feddaf enw gwell; trugaredd ‘rwy’n ei cheisio, a’i cheisio eto wnaf, trugaredd imi dyro, ‘rwy’n marw onis caf. Pechadur wyf, mi welaf, O Dduw, na allaf ddim; ‘rwy’n dlawd, ‘rwy’n frwnt, ‘rwy’n euog, O bydd drugarog im; ‘rwy’n addef nad […]