Pwy sydd debyg i ti, O Arglwydd ein Duw? Pwy, ymhlith duwiau lu, Sy’n sanctaidd fel tydi? Teilwng i’th foli – gwnest ryfeddodau. Pwy sydd debyg i ti? Judy Horner-Montemayor: Who is like unto Thee? Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones Hawlfraint © 1975 Integrity’s Hosanna! Music/Sovereign Music UK (Grym mawl 1: 183)
Ry’m ni am weld Iesu’n uchel fry Fel baner yn hedfan dros ein tir; Er mwyn i bawb weld y gwir yn glir – Ef yw y ffordd i’r nefoedd. Ry’m ni am weld Iesu’n uchel fry Fel baner yn hedfan dros ein tir; Er mwyn i bawb weld y gwir yn glir – Ef […]
Rhain ydyw dyddiau Elias, Yn datgan yn glir Air yr Iôr; A rhain ydyw dyddiau’th was ffyddlon, Moses, Yn adfer cyfiawnder i’r tir. Ac er mai dydd prawf welwn heddiw, Dydd newyn a th’wyllwch a chledd, Nyni ydyw’r llef o’r diffaethwch; Galwn: ‘O, paratowch lwybrau yr Iôr.’ Ac wele daw ar gymylau’r nef, Disglair fel […]
Rho hedd i mi, Tyrd, gostega’r storm. Tangnefedd cu – Pwysaf ar dy fron. Tawela’r cyffro o’m mewn â’th lef; Cofleidia fi, rho dy hedd. (Grym Mawl 2: 16) Jonny Baker a Jon Birch: Calm me, Lord, Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones Hawlfraint © 1997 Proost/Serious Music UK
Rho im enau rhydd I’m ganu mawl i’th enw; Rho im galon bur I mi d’addoli di. Rho im ysbryd parod I fod yn gyfrwng bendith, A chaiff eraill brofi’th gariad yn awr. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, Lord, release my mouth, Ian Townsend © 1986 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. Gan worshiptogether.com songs […]
Rho imi galon lân O Dad, i foli d’enw di calon yn teimlo rhin y gwaed dywalltwyd drosof fi. Calon fo wedi’i meddu’n glau gan Iesu iddo’i hun calon fo’n demel i barhau i’r bythol Dri yn Un. Calon ar ddelw’r hwn a’i gwnaeth yn llawn o’i gariad ef yr hon yn Nuw all lawenhau […]
Rho imi galon o gariad, Gofal dros rai sydd ar goll. Rho imi faich dros y rhai sydd yn isel a thrist. Arglwydd, rwy’n awchus a pharod I helpu’r tlawd ym mhob man. Tro eiriau ‘nghân yn weithredoedd o gymorth i’r gwan. Ac eneinia dy weision, eneinia dy weision, I ddweud am Grist, pregethu Crist. […]
Rho olwg ar dy gariad Rhyfeddol ataf fi; Y cariad ddaeth a Thi i’r byd I farw ar Galfari. O cymorth rho i ddeall, A gwerthfawrogi’n iawn Y pris a delaist, Sanctaidd Un, Er dwyn fy meiau’n llawn. Ai’r hoelion, O Waredwr, A’th glymodd Di i’r groes? Na, na, dy gariad ataf fi A wnaeth […]
Rhoddaf i ti fawl, Canaf i ti gân, A bendithiaf d’enw di. Can’s nid oes Duw fel tydi, All ein hachub ni, Ti yw’r unig ffordd. Dim ond ti all roi bywyd i ni, Dim ond ti all ein goleuo ni, Dim ond ti all roi heddwch in, Dim ond ti a erys gyda ni. […]
Rhoddwn ddiolch i ti, O Dduw, ymysg y bobloedd, Canu wnawn glodydd i ti Ymysg cenhedloedd. Dy drugaredd di sydd fawr, Sydd fawr hyd y nefoedd, A’th ffyddlondeb di, A’th ffyddlondeb di hyd y nen. Fe’th ddyrchefir, O Dduw, Goruwch y nefoedd, A’th ogoniant a welir dros y byd. Fe’th ddyrchefir, O Dduw, Goruwch y […]