Mawl i Dduw am air y bywyd, gair y nef yn iaith y llawr, gair y cerydd a’r gorchymyn, gair yr addewidion mawr; gair i’r cadarn yn ei afiaith, gair i’r egwan dan ei bwn, cafodd cenedlaethau daear olau ffydd yng ngeiriau hwn. Traetha hwn am ddeddfau’r Arglwydd a gwynfydau Mab y Dyn, am yr […]
Ti, Arglwydd y goleuni, sy’n troi y nos yn wawr, sy’n anfon fflam dy Ysbryd i danio plant y llawr, O derbyn heddiw’n moliant, a’n diolch, nefol Dad, am anfon gwres a golau dy Air yn iaith ein gwlad. Taranai dy broffwydi yn rymus eu Hebraeg, ond O’r fath fraint eu clywed yn siarad yn […]
Dywedodd Duw wrth Moses, ‘Nawr dyma’r ffordd i fyw, Achos Fi ydy’r Arglwydd dy Dduw.’ Dywedodd Duw wrth Moses, ‘Nawr dyma Reol Un: Paid cael duwiau eraill, Achos Fi ydy’r Arglwydd dy Dduw.’ Dywedodd Duw wrth Moses, ‘Nawr dyma Reol Dau: Paid addoli pethau, Paid cael duwiau eraill, Achos Fi ydy’r Arglwydd dy Dduw.’ Dywedodd […]