Pennill Plyga’r saint a’r engyl O flaen dy orsedd Di A’r henuriaid yn rhoi’u coronau ar y llawr O flaen yr Oen Corws Rwyt yn deilwng o bob clod Rwyt yn deilwng o bob clod Cans creaist Ti bob dim (Er) dy fwyn Di mae pob dim Ti sy’n haeddu’r moliant Egwyl Canwn o o […]
Pennill 1 Taw, fy enaid taw, Nac ofna di Os rhua gwynt newidiaeth ’fory; Duw – mae’n dal dy law, Paid dychryn mwy Rhag fflamau tristwch dwys, dirybudd. Cytgan Dduw, Ti yw fy Nuw, Ymddiried Ynot wnaf ac ni’m symudir; Iôr ein hedd, rho im Ysbryd diwyro yn fy mron, I bwyso arnat Ti. [Rwy’n […]
Tyrd, Ysbryd Sanctaidd, Grëwr y byd, i orffwys yn ein c’lonnau ni. Tyrd, llanw ni â’th nerth a’th ras, Tyrd i’n rhyddhau o’n pechod cas; Llawenydd rho (i) ddynoliaeth drist; Gwna ni yn demlau bywiol Crist. Ffynhonnell pob goleuni pur, Ysbryd pob gras, a’r bywyd gwir Llifed y bywiol ddyfroedd glân, dy gariad pur a’r […]
Os oes syched arnaf fi Mentra ato Ef; Ni chei orffwys heb ei ras, Mentra ato Ef; Os wyf wan Mae Iesu’n dweud: Mentra ato Ef; Neb ond Ef fydd imi’n nerth: Mentra ato Ef; Cytgan Canys da yw ‘Nghrist a ffyddlon, Ddydd a nos fe’m ceidw’n fyw. Y mae croeso’m mreichiau Iesu: Cryf, caredig […]
Ti’n cynnig rhyddid A bywyd llawn, Ti yn drugarog, Ti’n obaith pur, Ti’n hoffi maddau Ein beiau lu, Ti’n cynnig popeth sydd Ar fy nghyfer i. Er mod i’n diodde’ A chwympo’n fyr, Yn profi c’ledi Tu yma i’r nef, Dros dro yn unig Mae’r bywyd hwn, Cyn nefol wynfyd Sydd yn para byth. Tro […]
Ti, Arglwydd y goleuni, sy’n troi y nos yn wawr, sy’n anfon fflam dy Ysbryd i danio plant y llawr, O derbyn heddiw’n moliant, a’n diolch, nefol Dad, am anfon gwres a golau dy Air yn iaith ein gwlad. Taranai dy broffwydi yn rymus eu Hebraeg, ond O’r fath fraint eu clywed yn siarad yn […]
Trwyddot ti, y mae popeth wedi’i greu Er dy fwyn, yr wyf finnau’n byw bob dydd Ynddot ti, saif popeth yn ddi-wahân, Trwyddot ti, er dy fwyn, ynddot ti. Ynddot ti, y mae holl drysorau bywyd, Ynddot ti, mae gwybodaeth sy’n guddiedig, Ynddot ti, y mae gobaith ein gogoniant: Crist ynom ni, gwnest ni’n Sanctaidd […]
Ti’n rhoi i mi statws a gwerth, Ti’n rhoi i mi awdurdod a nerth, Ti’n dangos pwy ydw i – Rydw i’n blentyn i Ti. Ti’n rhoi i mi dy gyfiawnder mwyn, Ti’n rhoi i mi dy fywyd yn llwyr, Ti’n eiddo i mi fy hun, Rydw i’n eiddo i Ti. Dwi’n plygu glin i’th […]
[Hebreaid 4:14-16, Alaw: Deio Bach] Pan mae pobl yn dy wrthod Cofia Iesu ar y groes Pan mae eraill yn dy wawdio Cofia iddo ddioddef loes. Cariodd Ef ein holl fethiannau, Teimlodd Ef y poen i gyd; Archoffeiriad ydyw’r Iesu Gyd-ddioddefa â’n gwendid ni. Pan mae bywyd yn dy brofi Dal dy afael yn dy […]
Tu hwnt i’r Groes y mae fy nghoron, Er cwpan gwawd un bychan yw, Ond cwpan Iesu i’r ymylon, Fu’n gwpan llid digofaint Duw. Tu hwnt i’r Groes y mae fy nghoron, O gwrando Iesu ar fy nghri, Er nad oes gennyf ddim i’w gynnig, Fy Arglwydd Iesu, – cofia fi. Tu hwnt i’r Groes […]