Pennill 1 Harddwch am friwiau lu Gobaith a fydd, Iôr, yn ein trallod Clyw weddi ein dydd – Bara i’r bychain, Tegwch, hoen, hedd, Heulwen hyd fachlud, Doed Dy deyrnas ’mhob gwedd! Pennill 2 Lloches i fywyd brau, Iechyd i’r sâl, Gwaith i bob crefftwr A theg fyddo’i dâl, Tir i’r amddifad rai, Hawliau i’r […]
Gwelais satan balch yn syrthio Gwelais dduwch byd yn ildio Ond y wyrth na allaf i fyth ei esbonio Fy enw lawr yn llyfr y nefoedd Credu rwyf yn Nuw’r rhyfeddod Nerth yr atgyfodiad ynof Ond y wyrth na allaf i fyth ei esbonio Fy enw lawr yn llyfr y nefoedd Fy mawl sy’n eiddo’i […]
Pennill 1 Tyrd, fy nghalon wan, nawr at Iesu Tyrd, fy enaid petrus a gwêl Y mae cariad pur a chysur yn dy ing Gorffwys yn Ei berffaith hedd Corws O, ddaioni, daioni yr Iesu Rwyf yn fodlon, nid oes angen mwy Boed fel hyn, doed a ddêl, i mi orffwys bob dydd Yn naioni […]
Pennill 1 S’gen ti syched, s’gen ti angen? Tyrd ac yfa’r dyfroedd bywiol Wedi’th dorri? Mae tangnefedd I ti wrth y dyfroedd bywiol. Pennill 2 Crist sy’n galw; mae adfywiad nawr wrth groes y dyfroedd bywiol. Ildia’th fywyd, aeth d’orffennol; coda yn y dyfroedd bywiol. Corws Y mae afon tosturi a gras yn llifo nawr, […]
Dwg fi i Fynydd yr Olewydd Lle mae ‘Ngheidwad yn yr ardd; Chwŷs fel dafnau gwaed yn disgyn Hyd ei ruddiau hardd. Beth yw’r ymdrech sy’n ei enaid? Pam bod hwn sy’n Frenin Nef  gofidiau dwys hyd angau Yn ei galon Ef? Cwpan sydd o’i flaen i’w hyfed – Cwpan chwerw angau loes; Tâl […]
Pennill 1 Diolchgarwch lanwo ’nghalon i I’r Hwn a ddug fy nghur, Fe blymiodd ddyfnder du fy ngwarth Ces fywyd newydd, gwir; Do, chwalodd felltith ’mhechod cas A’m gwisgo yn Ei wawl, ‘Sgrifennodd ddeddf cyfiawnder pur Yn rymus ar fy mron. Pennill 2 Diolchgarwch lanwo ’nghalon i I’r Hwn sy’n dal fy llaw; Mae’n boddi’m […]
Pennill 1 Pwy all orchymyn holl luoedd nefoedd? Pwy wna i bob brenin blygu lawr? A sibrwd pwy wna i’r twyllwch grynu? Dim ond y Sanctaidd Dduw Pennill 2 Pa harddwch arall sy’n mynnu moliant? Pa odidowgrwydd sy’n fwy na’r haul? Pa fath ysblander reola’n gyfiawn? Dim ond y Sanctaidd Dduw Cytgan Dewch nawr a […]
Pennill 1 Bydysawd ddaeth o’r gwagle mawr Wrth wrando ar dy air Yr wybren fry a’r ddaear is Yr ardd a ddaeth o’r llwch Dy lais di sydd yn tanio’r nen A gwead yr holl sêr Yn nwyster dy holl fawredd di Dangosaist pwy wyt ti Corws Pob clod a pharch i’th enw di Ti’n […]
Pennill 1: Bara dy fywyd Di A dorrwyd er fy mwyn Dy gorff a roed ar groes I’m gwneud yn gyflawn Pennill 2: Cofiaf y cwpan llawn Dywalltwyd er fy mwyn Yn rhoi’th gyfamod Di Yn lle fy mhechod i Cytgan: Haleliwia Rwy’n byw fy mywyd i’th gofio Haleliwia Fe gofiaf d’addewid Di Pennill 3: […]
Ysgydwa’r ddaear fawr o’i flaen (Yn) crynu nawr wrth sŵn ei lais, A’r moroedd mawr tymhestlog fu A wneir yn dawel er fy mwyn. A thrwyddo oll, trwyddo oll (Rwy’n) syllu arnat ti, A thrwyddo oll, trwyddo oll Diogel wyf; A thrwyddo oll, trwyddo oll (Rwy’n) syllu arnat ti, Diogel wyf gyda thi. Ni allaf […]