Gweddi’r Pererin Fy Nuw, fy Nhad, pan giliaf i’r cysgodion yn wan fy ffydd, yn blentyn tlawd afradlon, cyfeiria fi at loches y fforddolion lle byddi di, yn disgwyl im nesáu. Ac wrth nesáu, rhof heibio fy ffolineb wrth geisio’r ffordd i fywyd o ffyddlondeb; trwy niwl fy myd, synhwyro’th bresenoldeb a theimlo’r llaw, sy’n […]
[Pennill 1] Mae ’na addewid sy’n mynd tu hwnt i’m methiant Llef fain a distaw dawela f’ofnau oll [Pre-Corws] Gall hyd ’n oed fy ngwallau mwyaf i Droi’n wyrthiau sydd ar y gw-eill Yn wyrthiau sydd ar y gwe-ill [Corws] Trwy dy glwyfau, rwy’n iach Dan dy law, rwy’n gyflawn nawr Fe leferaist ac mi […]
Frawd neu chwaer, fe’th wasanaethaf; gad im fod fel Crist i ti; boed i mi gael gras i dderbyn dy wasanaeth di i mi. Pererinion ŷm yn teithio, a chymdeithion ar y daith; yma rŷm i helpu’n gilydd- rhodio’r filltir, cario’r baich. Daliaf olau Crist i oleuo yn nhywyllwch gwaetha’ d’ofn: estyn llaw a wnaf […]
Pennill 1 Roeddwn i yn siwr Y byddet wedi dod I sychu’n dagrau ni a dod i’n hachub ni Ond eto fyth, rwy’n dweud “Amen” Ac mae’n glawio Rhag-gorws Yn rhu y daran fawr Y mae dy lais yn sibrwd Drwy y glaw “Rwyf yma” Wrth i’th drugaredd ddod Rwy’n codi’m llaw A moli’r Duw […]
Pennill 1 Fy nghân o fawl a fydd fyth bythol Iesu, Fy nghadarn sylfaen ar dywod brau; Gobaith a nerth drwy wae pob ofn a methiant, Pob siomedigaeth ddaw i’m rhan Ei gariad pur a’m cwyd i’r lan. Cytgan Felly trwy fy oes rhydd fy enaid fawl I’r Iôr, fyth bythol Iesu. Er pob storm […]
Fe godaf Haleliwia yng ngŵydd fy holl elynion i, Fe godaf Haleliwia yn uwch na’m anghrediniaeth i, Fe godaf Haleliwia, caneuon yw fy arfau i, Fe godaf Haleliwia, a’r nef yn brwydro drosta i. Cytgan Fe ganaf i yng nghanol y storm, Yn uwch ac yn uwch, fe rhua fy mawl, Gobaith a ddaw, o’r […]
O’r dyfnder galwaf arnat ti, O fannau tywyll daw fy llais; O tro dy glust tuag ataf nawr Ac o’th drugaredd gwranda, Iôr. Pe baet yn cyfri ’mhechod i Sut fedrwn ddod at d’orsedd nawr? Ond mae maddeuant llawn o’m mlaen, Rhyfeddaf at d’achubol ras. Fe ddisgwyliaf i, fe ddisgwyliaf i, Ar dy air rwy’n […]
Fy Iesu yw fy Nuw, Fy noddfa gadarn gref; Ni fedd fy enaid gwan, Ddim arall dan y nef; Mae Ef ei Hun a’i angau drud, Yn fwy na’r nef, yn fwy na’r byd. Fy nymuniadau i gyd Sy’n cael atebiad llawn, A’m holl serchiadau ‘nghyd Hyfrydwch nefol iawn, Pan fyddwy’n gweld wrth olau’r wawr, […]
Fy Iesu yw fy Nuw, Fy Mrawd a’m Prynwr yw, Ffyddlonaf gwir; Arwain fy enaid wnaeth O’r gwledydd tywyll caeth, I wlad o fêl a llaeth, Paradwys bur. Efe a aeth o’m blaen, Trwy ddyfnder dŵr a thân, I’r hyfryd wlad; Mae’n eiriol yno’n awr O flaen yr orsedd fawr, Yn maddau bach a mawr […]
Fy nymuniad, paid â gorffwys Ar un tegan is y nef; Eto ‘rioed ni welodd llygad Wrthrych tebyg iddo Ef: Cerdda rhagot, ‘Rwyt ti bron a’i wir fwynhau. Ffárwel, ffárwel oll a welaf, Oll sydd ar y ddae’r yn byw; Gedwch imi, ond munudyn, Gael yn rhywle gwrdd â’m Duw: Dyna leinw ‘Nymuniadau oll yn […]