Pennill 1 Rwyf i wedi cario fy maich yn rhy hir Ges i ddim fy nghreu i’w gario fy hun Ac rwy’n clywed gwahoddiad i’w ollwng i gyd Rwy’n deall nawr, rwy’n rhoi’r cyfan lawr Gwn mod i d’angen Di Corws Fe redaf i freichiau Y Tad, profi’i ras Mae’r cuddio ‘di gorffen Mae’r aros […]
Rhyfeddol Dduw a Chreadigol Un, fe greaist ti’r ddynoliaeth ar dy lun a’u gyrru i bob cwr o’r ddaear werdd i’w llenwi’n frŵd â llên a llun a cherdd. Drwy’n hiaith a’n gwreiddiau, drwy bob dysg a dawn, gad i ni fyw bywydau hardd a llawn. Golomen Sulgwyn gyda’th sanctaidd lef cysegra eto’n hiaith i […]
Pennill 1 Does dim clod imi Am y gwynt dan fy mron Fy unig ymffrost Yw yn y gwaith a wnest Ti Fe lifa ‘nghalon Boed i’r cariad a ddaw Dywallt o’th flaen Di nawr Yn bersawr pêr Corws Rhof i Ti’r gogoniant Yr holl ogoniant Rhof i Ti’r gogoniant Drachefn a thrachefn Nid i […]
Pennill 1 Ti ydy awdur ’mywyd i Rwyt ti o ’mlaen i a’r tu ôl – i mi Cyn cymryd gwynt, tu hwnt i’m bedd Rwyt ti gyda mi bob cam I dragwyddoldeb Corws Dim lle i guddio, nac i ffoi Y mae‘r gwyll yn olau nawr O’r mannau isaf i foliant fry Rwyt yn […]
Pennill 1 Mae’r storm tu fewn ar fin fy llethu i Ble af i nawr? Mae’r pwysau’n ormod im Rhag-Gorws Dwed nawr wrth y môr sy’n rhuo’n wyllt ynof fi Fy holl bryderon, fe ildiaf nawr i Ti Corws Rwy’n rhoi pob baich wrth Dy draed Cymer nhw, cymer nhw Rhof f’ofnau it am Dy […]
Pennill 1: Rhydd Duw fwy o ras pan fo’r beichiau’n cynyddu, Fe rydd fwy o nerth wrth i’r tasgau drymhau; Gorlifa’i drugaredd pan ddybla’r gorthrymder, Yn wyneb treialon, Ei hedd ddaw’n ddi-drai. Cytgan: Diderfyn Ei gariad, Ei ras sy’n ddifesur, Tu hwnt i’n dirnadaeth helaethrwydd Ei ddawn; O’i storfa gyfoethog, ddihysbydd yn Iesu Mae’n rhoddi, […]
Pennill 1: Rhoddaist dy gariad i lawr A chario baich ’mhechod i Golchi fy meiau fel lli’ Lawr i fôr dy gariad di-drai Cytgan: Â’m breichiau fry Arglwydd derbyn fi Nawr, rwyf yng nghadw ’Nghrist Â’th dragwyddol gariad Â’m cyfan oll Safaf yn dy ras Dy gariad sy’n well na’r un Cariad Duw, ’Ngwaredwr Pennill […]
Rho inni weledigaeth ar dy frenhiniaeth di sy’n estyn o’r mynyddoedd hyd eithaf tonnau’r lli; ni fynnwn ni ymostwng, yn rhwysg ein gwamal oes ond i’th awdurdod sanctaidd a chyfraith Crist a’i groes. Gwisg wisgoedd dy ogoniant sy’n harddach fil na’r wawr, a thyred i feddiannu dy etifeddiaeth fawr; a thywys, o’th dosturi, dylwythau’r ddaear […]
Rho i ni lygad Crist i weld yn iawn y ffiniau ffals a ddrylliwyd un prynhawn, er mwyn i ni gael carthu’n rhagfarn cas a gweld pob lliw yn hardd yn haul dy ras: O cuddia ni er mwyn dy ddangos di, y dyn dros eraill yw ein Harglwydd ni. Rho i ni ddwylo Crist […]
Rhoddwn glod i’th enw tirion, Arglwydd mawr nef a llawr, derbyn fawl dy weision. Yn ein gwlad a’n hen dreftadaeth llawenhawn, ynddi cawn hyfryd etifeddiaeth. Yn dy air yn iaith ein tadau rhoist i ni uchel fri, trysor uwch trysorau. Mae dy air yn llusern olau ar ein taith yn dy waith: dengys y ffordd […]