Emyn y Grawys Arwain wnaethost, Dduw, trwy’r Ysbryd D’unig Fab i’r anial maith; yno dysgodd i ymddiried yn Dy ras cyn dechrau’i waith. Gras Dy eiriau drechodd demtasiynau’r sarff. Deugain niwrnod o ymprydio, deugain nos mewn gwewyr llym, i weddnewid trwy dreialon wendid dyn yn ddwyfol rym. Grym Dy eiriau drechodd demtasiynau’r sarff. Arwain ninnau […]
Pennill 1 Ar y groes, ar y groes, lle bu farw gwir Fab Duw, Dyma ras, cariad pur lifa’n rhad o’i ystlys friw. Dirgelwch rhyfedd yw – Bu farw i mi gael byw, aberth perffaith Brenin Nef. Ar y groes, ar y groes, cariad perffaith ar y groes. Pennill 2 Wrth y groes, wrth y […]
Arglwydd Iesu, Geidwad annwyl, clyw ein cri ar ran y byd, sŵn rhyfela sy’n y gwledydd sôn am ing a thrais o hyd. O! Na welem heddwch yn teyrnasu byth. O! na chaem ni weld y dyddiau pan fo pawb yn byw’n gytûn; brawd yn caru brawd ym mhobman a phob dyn yn parchu dyn. […]
Rhoes Duw Ei Fab – Iesu oedd Hwnnw, I’m caru ddaeth A maddau ’mai. Bu farw’r Oen I brynu ’mhardwn; Bedd cwbl wag Sy’n berffaith dyst I’m Prynwr byw. Am mai byw yw Ef Af ymlaen yfory, Am mai byw yw Ef Ffoi wnaiff pob braw, Am y gwn mai Ef Sy’n dal y dyfodol, […]
Ar dymor gaeaf dyma’r wyl Sydd annwyl, annwyl in; Boed sain llawenydd ym mhob llu, Waith geni’r Iesu gwyn; Datseinwn glod a llafar don, Rhoed rhai tylodion lef, Gan gofio’r pryd y gwelwyd gwawr Eneiniog mawr y nef! Ar gyfer heddiw Maban mwyn A gaed o’r Forwyn Fair; Ac yno gweled dynol-ryw Ogoniant Duw y […]
Y cread ŵyr y llais a ddaeth i’r gwagle mawr Y gwynt a ddaeth â’r llwch yn fyw a ffurfiodd sêr y nen Mae’r gwyll yn ofni’th lais A’i gyrrodd ef i ffwrdd ac er mai hir yw’r nos, Mi wn yn iawn y gwnei hyn eto nawr Un gair gen Ti Daw newid ar […]
Pennill 1 Bûm ar goll, (rwy’n) saff yn awr, Ei lais oedd yn ’ngalw nôl Bywyd fu ar chwâl, boddi yn y storm Rhedais oddi wrthyt ti Pennill 2 Yna clywais di’n galw arna i, “Tyrd yn ôl” Rhof fy nyled lawr, cael coron hardd Clywais d’alwad di Pont Yn dy freichiau di Syllaf i’th […]
Pennill 1 Anwylyd, mor sanctaidd, Hyfrydwch pur y Tad. ’Ngwaredwr, Cynhaliwr Ti yw ’nhrysor gwych a’m câr. Pennill 2 Fy Mrawd wyt, ’Nghysurwr, Fy Mugail da a’m Ffrind, Fy Mhridwerth, ’Nghyfiawnder gwir, Ti yw’r Ffrwd ddiddiwedd, bur. Cytgan Ddigyfnewid Un, Ogoneddus Fab, Ti yw’r oll ddymunwn i. F’Anadl einioes wiw, Haul cyfiawnder byw, Cariad cywir, […]
Ar d’enw Di, fe ddymchwel y mynyddoedd Ar d’enw Di, rhua a chwala’r moroedd Ar d’enw Di, angylion a blyg, y ddaear a gân Dy bobl rônt waedd Arglwydd yr holl fyd, fe floeddiwn dy enw Di Llenwi’r wybren fry â’n moliant di-derfyn ni Yahweh, Yahweh Fe garwn floeddio d’enw Iôr Ar d’enw Di, fe […]
Arglwydd mawr y cyfrinachau, ti yw saer terfynau’r rhod, artist cain yr holl ddirgelion a chynlluniwr ein holl fod: creaist fywyd o ronynnau a rhoi chwyldro yn yr had; rhannu, Iôr, wnest ti o’th stordy amhrisiadwy olud rhad. Maddau inni yr arbrofion sy’n ymyrryd â dy fyd; mynnwn ddifa yr holl wyrthiau, ceisiwn chwalu pob […]