logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Llonder, balchder lanwo’ch calon

Llonder, balchder lanwo’ch calon canwch, molwch ein Duw ni! Mawr yw’r Iôr mewn bri a chariad, gallu, mawredd, dwyfol Ri! R’ hwn a luniodd sêr y nefoedd – mae’n eu ’nabod, ddisglair lu. Molwch Dduw, Ei bobl, molwch! enaid clwyfus, cysur ddaw; Ei drugaredd gaiff yr egwan, hedd am boen a hoen am fraw; Eu […]

  • Aled Davies,
  • June 10, 2026

Llafur Cariad

Pennill 1 Nid oedd yno dawel nos Roedd ‘na waed ar y llawr Roedd eu hwylo hithau’n gry’ Yn y strydoedd tywyll du Yn nhref Dafydd cyn y wawr Pennill 2 Doedd y stabal ddim yn lân A phob stryd yn teimlo’n oer Dyma’r raslon forwyn Fair Yn ei dagrau yn y gwair A dim […]

  • Aled Davies,
  • June 10, 2026

Llenwa’r tŷ â D’ogoniant

Pennill Llenwa’r tŷ â D’ogoniant Llenwa’r tŷ â D’ogoniant Llenwa’r tŷ â’th bresenoldeb nawr Mae pob dim sy’n bodoli Drwot Ti a’n bod i Ti Dangos i ni dy ogoniant nawr Corws Sanctaidd, Sanctaidd Sanctaidd yw yr Iôr Iesu yw Brenin pob dim Am byth rhown Iddo’r Clod Corws 2 Iesu yw Brenin y Nef […]

  • Rhys Llwyd,
  • April 16, 2025

Llawen Gân

Pennill 1 Hon yw ein Llawen Gân a ganwn nawr i Ti Mae ‘nghalon innau’n llawn o bopeth a wnei Di Mae cri o gariad mawr yn ffrydio’n ddwfn tu fewn i mi Pont 1 Mae’th ryfeddodau (yn) goleuo’r byd Y mae dy roddion di tu hwnt i bob dychymyg Boed i’n lleisiau ddod yn […]

  • Rhys Llwyd,
  • March 5, 2025

Lle ’roet ti

1. Lle ‘roet ti pan groeshoeliwyd f’Arglwydd pur? Lle ‘roet ti pan groeshoeliwyd f’Arglwydd pur? Lle roet ti pan groeshoeliwyd f’Arglwydd pur? O, teimlaf fy hun ar brydiau’n crynu, crynu, crynu,- Lle roet ti pan groeshoeliwyd f’Arglwydd pur? 2. Lle ‘roet ti bnawn ei hoelio ar y pren? 3.Lle ‘roet ti pan ddioddefai’r bicell fain? […]

  • Rhys Llwyd,
  • September 29, 2021

Llifa ataf, fôr tragywydd

Llifa ataf, fôr tragywydd, gyr dy ddyfnder oddi draw; cuddia’r ogofeydd a’r creigiau sy’n fy mygwth ar bob llaw: sŵn dy ddyfroedd yw fy ngobaith pan ddymchwelont, don ar don, ac nid oes ond ti a’m cyrraedd ar y draethell unig hon. Gwelaf dros dy lanw nerthol oleuadau’r tiroedd pell lle mae Duw yn troi […]

  • Gwenda Jenkins,
  • January 28, 2016

Lle bynnag wyt, O Grist

Lle bynnag wyt, O Grist, mae bywyd pur ei flas, mae ysbryd yno’n rym a gloyw ffrydiau gras; mae yno fwynder hedd i gyfoethogi’n byw: lle bynnag wyt, O Grist, cawn weled ŵyneb Duw. Lle bynnag wyt, O Grist, symudir baich ein bai, bydd sanctaidd olau’r nef ar wedd yr addfwyn rai; cawn weld yr […]

  • Gwenda Jenkins,
  • January 18, 2016

Llawn o ofid, llawn o wae

Llawn o ofid, llawn o wae, A llawn euogrwydd du, Byth y byddaf yn parhau Heb gael dy gwmni cu; Golwg unwaith ar dy wedd A’m cwyd i’r lan o’r pydew mawr; O! fy Nuw, nac oeda’n hwy, Rho’r olwg imi’n awr. ‘Mofyn am orffwysfa glyd, Heb gwrdd â stormydd mwy; Lloches nid oes yn […]


Llawryfon rhowch ar ben

Llawryfon rhowch ar ben Yr Oen ar orsedd nef. Ni chân angylaidd nefol gôr I neb ond iddo Ef. Fy enaid cân i’r Hwn Fu farw yn dy le; Trwy dragwyddoldeb nid oes gwell Ar ddae’r nac yn y ne. Cododd o’r bedd yn fyw. Gorchfygodd Angau gawr. Ei rym achubol welir yn Ei fuddugoliaeth […]


Llais hyfryd rhad ras sy’n gweiddi, “Dihangfa!”

Llais hyfryd rhad ras sy’n gweiddi, “Dihangfa!” Yng nghlwyfau Mab Duw, bechadur, mae noddfa: i olchi aflendid a phechod yn hollol fe redodd ei waed yn ffrydiau iachusol. Haleliwia i’r Oen bwrcasodd ein pardwn, ‘n ôl croesi’r Iorddonen drachefn ni a’i molwn. Ar angau ac uffern cadd lawn fuddugoliaeth, ysbeiliodd holl allu’r tywyllwch ar unwaith: […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015