logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Chwennych cofio ‘rwyf o hyd

Chwennych cofio ‘rwyf o hyd am Galfaria, man hynota’r byd i gyd yw Calfaria; bu rhyw frwydyr ryfedd iawn ar Galfaria: cafwyd buddugoliaeth lawn, Haleliwia! Cerddodd Iesu dan y groes i Galfaria, a dioddefodd angau loes ar Galfaria; rhoi ei fywyd drosom wnaeth ar Galfaria; bywyd llawn i ninnau ddaeth, Haleliwia! JANE HUGHES, 1760?-1820 (Caneuon Ffydd […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015

Chwi, eneidiau, pam y crwydrwch

Chwi, eneidiau, pam y crwydrwch fel tarfedig braidd o dref? Ffôl galonnau, pam y cefnwch ar ei ryfedd gariad ef? A fu cyn dirioned Bugail, neb erioed mor fwyn ei fryd a’r Gwaredwr a fu’n gwaedu er mwyn casglu’i braidd ynghyd? Mae’i drugaredd ef yn llydan, mae yn llydan fel y môr; ac mae gras […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 9, 2015

Chwi bererinion glân

Chwi bererinion glân, sy’n mynd tua’r Ganaan wlad, ni thariaf finnau ddim yn ôl; dilynaf ôl eich traed nes mynd i Salem bur mewn cysur llawn i’m lle: O ffrind troseddwyr, moes dy law a thyn fi draw i dre. Mi ges arwyddion gwir o gariad pur fy Nuw; ei ras a’i dawel, hyfryd hedd […]


Cheisiais Arglwydd, ddim ond hynny

‘Cheisiais Arglwydd, ddim ond hynny, dim ond treulio ‘nyddiau i maes fyth i’th garu a’th ryfeddu ac ymborthi ar dy ras: dyna ddigon – ‘cheisiaf ‘nabod dim ond hyn. Dal fy llygad, dal heb wyro, dal ef ar d’addewid wir, dal fy nhraed heb gynnig ysgog allan fyth o’th gyfraith bur: boed d’orchmynion imi’n gysur […]


Chwilio amdanat addfwyn Arglwydd

Chwilio amdanat addfwyn Arglwydd mae fy enaid, yma a thraw; teimlo’mod i’n berffaith ddedwydd pryd y byddi di gerllaw: gwedd dy ŵyneb yw fy mywyd yn y byd. Heddwch perffaith yw dy gwmni, mae llawenydd ar dy dde; ond i ti fod yn bresennol, popeth sydd yn llanw’r lle: ni ddaw tristwch fyth i’th gwmni […]