Pennill 1 Pwy wyf fi fod yr hwn sy’n Arglwydd byd Yn gwybod f’enw i Yn teimlo pan rwy’n brudd Pwy wyf fi fod y Seren Fore glir ‘N goleuo’r ffordd ymlaen I fy nghalon grwydrol i Rhag-gytgan Nid oherwydd pwy wyf fi Ond oherwydd beth wnest ti Nid oherwydd beth wnes i Ond oherwydd […]
Pennill 1 Pa gariad Dduw, a’th ddenodd di i lawr Pa frenin fynnai’i eni ar y llawr Ac eto daethost i le’r gwyll a’r braw A chysgu dan y sêr a wnaed â’th law Pennill 2 Pa gariad Dduw anfonodd Fab y Dyn I dderbyn gwarth, yn wrthodedig un I ti gael deall am fy […]
Pennill 1 Mae rhai yn sôn dy fod ymhell, dim ond geiriau mewn rhyw lyfr Yn ddim byd mwy na chwedlau basiwyd lawr o oes i oes Ond fe holltaist Ti y dyfroedd Pan allai neb fy nhynnu i o’r dwfn Dyna pwy wyt Ti Pennill 2 Mae rhai yn dweud dy fod yn byw […]
Pan ddaw pob tymor yn ei dro rhyfeddu wnawn at allu’r Iôr yn creu amrywiaeth lliw a llun ar faes a mynydd, tir a môr. Diolchwn am y gwanwyn gwyrdd yn deffro’r byd ‘r ôl trwmgwsg hir, a chyffro’r wyrth yn dweud wrth bawb fod atgyfodiad yn y tir. Ac yna’r haf a’i ddyddiau mwyn, […]
Pan fwy’n cydio’n dynn yng ngodre gwisg fy Arglwydd Grist, fe lifa nerth i’m hysbryd llesg: ‘rwy’n dy garu, Iôr. Pan fwy’n torri blwch yr ennaint gwerthfawr dros dy ben rhof it fy oll, rhof it fy hun: ‘rwy’n dy garu, Iôr. Hywel M. Griffiths © Siân Griffiths. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
O paid ag ofni, dywed Duw Rwy’n addo, gwnaf dy achub di A galwaf ar dy enw’n glir Fy eiddo wyt ti. Pan fyddi’n mynd drwy’r dyfroedd dwfn Mi fyddaf yno gyda thi; Wrth groesi’r afon wyllt ei llif Ni suddi di. Pan fyddi’n mynd drwy fflamau’r tân Ni chaiff eu gwres dy losgi di; […]
Pan daena’r nos o’m cylch ei chwrlid du yn fraw, fe gilia’r arswyd wrth i mi ymaflyd yn dy law. Pan chwytha’r gwyntoedd oer i fygwth fflam fy ffydd, ar lwybyr gweddi gyda thi caf nerth yn ôl y dydd. Pan gyll holl foethau’r byd eu swyn i gyd a’u blas, mae swcwr, Arglwydd, ynot […]
Pan fwyf yn teimlo’n unig lawer awr heb un cydymaith ar hyd llwybrau’r llawr, am law fy Ngheidwad y diolchaf i â’i gafael ynof er nas gwelaf hi. Pan fyddo beichiau bywyd yn trymhau a blinder byd yn peri im lesgáu, gwn am y llaw a all fy nghynnal i â’i gafael ynof er nas […]
Pwy sydd yn marw drosof fi Ar fryn y camwedd mawr, A grym maddeuant yn ei air Yn ing yr olaf awr? Cytgan: Yr Iesu yw, Eneiniog Duw, Yr anfonedig glân, Caf ynddo Ef orfoledd byw A rhin y dwyfol dân. Pwy sydd yn eiriol drosof fi, Bechadur gwael ei wedd, Gan ennill imi bardwn […]
Pan anwyd Crist ym Methlehem dref canodd angylion nef, canu wnawn ninnau’n llawen ein llef foliant i Faban Mair. Canu wnawn ni, canu wnawn ni foliant i Faban Mair, canu wnawn ninnau’n llawen ein llef foliant i Faban Mair. Teithiodd y doethion dros bant a bryn ar eu camelod […]