Pennill 1 Pan fwy’n ofni colli ffydd, Crist – fe’m deil yn dynn; Pan ddaw’r temtiwr trech liw dydd, Ef a’m deil yn dynn. Dal fy ngafael – fedra’i fyth Ar fy nyrys daith, Am mai oer yw ’nghariad i, Rhaid Iddo ’nal yn dynn. Cytgan Ef a’m deil yn dynn, Ef a’m deil yn […]
Corws Clod i’r Iôr Ei gariad sy’n fwy (Yn) drech na’r tywyllwch, (yn) newydd bob dydd Mae’n beiau yn llawer, ei gariad sy’n fwy Pennill 1 Pa gariad all beidio â chofio ein bai Ac E’n hollwybodol, ni chyfrant o’i flaen I ddyfnder y moroedd fe’u teflir i gyd Mae’n beiau yn llawer, ei gariad […]
Mae’r gwynt yn awr yn rhuo Ond ni chaf fy siglo, Fe wn i, mae E wrth y llyw. Mae’r Un sy’n fwy o’m mewn i Yn fwy na beth sy’n f’erbyn, Fe wn i, mae E wrth y llyw Fe’m cynnal i fel o’r blaen, Ef yw’r Iôr, Ef yw’r Iôr; Nid ofnaf mwy, […]
Enynner diolchgarwch, mae ffiol dyn yn llawn; bu Duw mewn mawr ddirgelwch yn taenu’r gwyrthiau grawn: doed moliant i’r cynteddau, a diolch pêr i’r pyrth; nid talu’n ôl ein beiau mae’r Tad sy’n gwneud y wyrth. Trwy’r ydfaes at yr adfyd yr â trugaredd Duw, mor hawdd i ddyn ddywedyd mai Tad trugarog yw; mae […]
Edrycha’r glas ‘na yn yr awyr siapiau hardd cymylau gwyn, Y gwynt yn chwythu ar fy ngwyneb a’i sŵn yn rhuthro ble y mynn. Sut faswn i petawn i yno y dydd croeshoeliwyd Iesu cu, Pan rwygwyd llen y deml’n hanner a threchwyd grym marwolaeth du? Mae’r greadigaeth yn disgwyl, mae’r greadigaeth yn disgwyl, Mae’r […]
Efe yw’r perffaith Iawn. Mae Teyrnas Gras yn llawn O bechaduriaid mawr A gafodd yma i lawr O’u crwydro ffôl – faddeuant llwyr Gan Iesu Grist, cyn mynd rhy hwyr. Fy iachawdwriaeth i Sydd wastad ynot Ti, Mae grym y Groes a’r gwaed A’r llawnder im a gaed, O’th ryfedd ras – yn cyfiawnhau. A […]
Er dy fod yn uchder nefoedd, Uwch cyrhaeddiad meddwl dyn, Eto dy greaduriaid lleiaf Yn dy olwg bob yr un; Nid oes meddwl Ond sy’n olau oll o’th flaen. Ti yw ‘Nhad, a thi yw ‘Mhriod, Ti yw f’Arglwydd, Ti yw ’Nuw, F’unig Dŵr, a’m hunig Noddfa, Wyt i farw neu i fyw: Cymmer f’enaid, […]
Edrych ar y rhai sy’n ceisio yn dy Eglwys le yn awr, dyro iddynt nerth i gofio am eu llw i’r Ceidwad mawr; cadw hwy’n ddiogel beunydd drwy holl demtasiynau’r daith, dan gawodydd gras rho gynnydd ar eu bywyd yn dy waith. O bugeilia di fyfyrdod y disgyblion ieuainc hyn, dangos iddynt fawr ryfeddod aberth […]
Ein gwlad a’n pobol gofiwn nawr mewn gweddi wrth dy orsedd fawr; gad i’n teuluoedd geisio byw mewn heddwch gyda thi, O Dduw. Yng nghanol anawsterau’r oes boed inni dderbyn golau’r groes a chofio’r Gŵr a’i rhoes ei hun i ddwyn dynoliaeth ar dy lun. Lle mae casineb, cariad fo, a lle mae cam, maddeuant […]
Ein Tad wyt ti, O uchel Iôr, yr hwn a greodd dir a môr, tydi a’n creaist ar dy lun i’th wasanaethu di dy hun: O dysg in fyw, er mwyn dy rodd, yn dangnefeddwyr wrth dy fodd. Rhag in dristáu dy Ysbryd di, a throi yn wae ein daear ni; rhag ymffrost mawrion wŷr […]