logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ffyddlon nawr

Pennill 1 Rwyf yn dal yn dynn mewn ffydd Gwn y byddi’n agor ffordd Dwi’m bob tro yn medru dallt (a) dim bob tro yn medru gweld Ond rwyf yn credu Yr wyf yn credu Corws (Ti’n) symud bryniau mawr A thynnu cewri lawr Ti’n ysgwyd muriau’r gell Trwy ganeuon mawl Rwyf yn siarad â’m […]

  • Rhys Llwyd,
  • May 10, 2023

Ffordd newydd wnaed gan Iesu Grist

Ffordd newydd wnaed gan Iesu Grist I basio heibio i uffern drist, Wedi ei phalmantu ganddo Ef, O ganol byd i ganol nef. Agorodd Ef yn lled y pen, Holl euraidd byrth y nefoedd wen; Mae rhyddid i’w gariadau Ef I mewn i holl drigfannau’r nef. Os tonnau gawn, a stormydd chwith, Mae Duw o’n […]


Ffarwel bellach hen bleserau

Ffarwel bellach hen bleserau, Dwyllodd f’ysbryd fil o weithiau, ‘N awr ‘r wyf wedi canfod gwynfyd Nad oes ynddo radd o ofid. Mi ges berl o’r gwerthfawroca’, Nef a daear fyth nis prisia; Crist yw ‘nhrysor, – dyna’i sylwedd, Nef y nefoedd yn y diwedd. Fe ddangosodd imi’n olau Fod fy mhechod wedi’i faddau, A […]

  • Gwenda Jenkins,
  • September 14, 2015

Ffyddlon un, digyfnewid

Ffyddlon un, digyfnewid Oesol Un, ti yw craig fy hedd. Arnat ti rwy’n dibynnu, Galwaf arnat ti drachefn a thrachefn, Galwaf arnat ti drachefn a thrachefn. Ti yw fy nghraig pan ddaw trafferthion, Fe’m deli’n dynn pan lithraf fi; Gydol y storm Dy gariad yw’r angor, Mae ‘ngobaith ynot ti yn llwyr. (Grym Mawl 2: […]

  • Gwenda Jenkins,
  • June 10, 2015

Ffordd nid oes o waredigaeth

Ffordd nid oes o waredigaeth ond a agorwyd ar y pren, llwybyr pechaduriaid euog draw i byrth y nefoedd wen: dyma’r gefnffordd, gwna i mi ei cherdded tra bwyf byw. Nid myfi sydd yn rhyfela, ‘dyw fy ngallu pennaf ddim; ond mi rois fy holl ryfeloedd i’r Un godidoca’i rym: yn ei allu minnau ddof […]


Ffoed negeseuau gwag y dydd

Ffoed negeseuau gwag y dydd, trafferthion o bob rhyw, ac na pharhaed o dan y nef ond cariad pur fy Nuw. Meddiannodd ef â’i ddwyfol ras fy holl serchiadau’n un; na chaed o fewn i’m hysbryd fod neb ond fy Iesu’i hun. Mae’r Iesu’n fwy na’r nef ei hun, yn fwy na’r ddaear las, ac […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 4, 2015