Clywch y newydd da, Llawenydd mawr i bawb drwy’r byd; Hyn a fydd yn arwydd: I Fethlehem daw mab mewn crud. Dewch, addolwch, peidiwch ofni dim. Neges côr angylion: ‘Gogoniant fo i Frenin Nef, Ac ar y ddaear heddwch I’r bobl wnaiff ei ddilyn Ef.’ Mae f’enaid i yn mawrhau yr Iôr! F’enaid sy’n mawrhau […]
Os ffydd sy’n symud mynydd, Symud nawr i ni. Down yma yn ddisgwylgar Disgwyl ‘mdanat ti, disgwyl ‘mdanat ti. Ti yw Arglwydd yr holl Gread ac eto’n ʼnabod i. Ie, Awdur ein hachubiaeth, Yr un â’n carodd ni. Disgwyl ʼmdanat ti Dyma ni (â’n) dwylo fry mewn mawl. Ti yw’r un garwn ni – Canwn […]
Daethost a throi’r dŵr yn win, peri i’r dall weld yn glir, Does neb sy’n debyg, neb fel ti! Ti sy’n goleuo ein nos, ti wnaeth ein codi o’r ffos, Does neb sy’n debyg, neb fel ti! Ein Duw yw’r mwyaf, ein Duw yw’r cryfaf, Yr unig Un, ti di’r Duw Goruchaf Ein Duw’r iachäwr, […]
Rhowch fawl i frenin dae’r a nef; Ei gariad sydd byth bythoedd. Doeth a da, uwch pawb yw Ef; Ei gariad sydd byth bythoedd. Canwch fawl, canwch fawl. Â breichiau cryf a chadarn law; Ei gariad sydd byth bythoedd. Arwain mae trwy siom a braw; Ei gariad sydd byth bythoedd. Canwch fawl, canwch fawl. Canwch […]
Pwy sydd yn codi’r meirw’n fyw? a’n rhyddhau o’n cyflwr briw? Ein gobaith yw, unig Fab Duw. Iesu, dim ond Iesu. Pwy all agor llygaid dall? Pwy all ryddhau o law y fall? Talodd y pris, ein heddwch yw. Iesu, dim ond Iesu. Sanctaidd Frenin Nefoedd wyt, Plyga’r holl angylion i ti, Syrthiaf finnau nawr […]
Safwn a chodwn ein cân, Cans llawenydd ein Duw yw ein nerth, Plygwn lawr ac addolwn nawr, Mor fawr, mor anferth yw Ef. Felly, canwn fel un, Sanctaidd yw ein Duw, Hollalluog, Y ddae’r sy’n llawn o’i ogoniant, Sanctaidd yw ein Duw, Hollalluog, Y ddae’r sy’n llawn o’i ogoniant, Y ddae’r sy’n llawn o’i ogoniant. […]