Fy enaid, bendithia yr Arglwydd, a chofia’i holl ddoniau o hyd, maddeuodd dy holl anwireddau, iachaodd dy lesgedd i gyd; gwaredodd dy fywyd o ddistryw; â gras y coronodd dy ben, diwallodd dy fwrdd â daioni: atseinier ei fawl hyd y nen. Trugarog a graslawn yw’r Arglwydd, hwyrfrydig i lid i roi lle; nid byth […]
F’enaid, mola Dduw’r gogoniant, dwg dy drysor at ei draed; ti a brofodd ei faddeuant, ti a olchwyd yn y gwaed, moliant, moliant dyro mwy i’r gorau gaed. Mola ef, a’i rad drugaredd lifodd at ein tadau’n lli; mola ef, ei faith amynedd a’i dosturi atat ti; moliant, moliant, am ei ddoniau rhad, di-ri’. A […]
Fe’i harchollwyd am ein troseddau, A thros ein hanwireddau ni; Pris ein heddwch ni roddwyd arno, A chawsom ni lwyr iachad. Fe’i harweiniwyd ef i’r lladdfa, Cymerodd ef ein beiau ni; Ac o dir y byw fe’i torrwyd, Yr un di-fai drosom ni. Crwydro wnaethom ni bob un, Aethom bawb i’w ffordd ei hun, Ac […]
Fe roddwyd mab – Rhyfeddol ydyw Ef; Fe roddwyd mab – Cynghorwr dae’r a nef; Y Cadarn Dduw, Tad Tragwyddoldeb ydyw, Tywysog Hedd, oleua nef y nef. Y Cadarn Dduw, Tad Tragwyddoldeb ydyw, Tywysog Hedd, oleua nef y nef. (Geiriau eraill ar yr un dôn – ‘Dros Gymru’n Gwlad’ – Lewis Valentine) anad. cyf. Arfon […]
Fy Nhad, dy gariad di A dalodd drosof fi, I mi, yr euog un Fynd yn rhydd! Rhyfeddod nef, o’r fath gariad, Ei fywyd Ef drosof fi. O gariad rhad – marw yn fy lle, I mi gael byw, i mi gael byw. Yr Un ar groes o bren, Fab Duw, wrthodwyd. Ond o, ei […]
Fe atseinia’r dyffrynoedd a chân o fawl, Bydd y llew yn cydorwedd â’r oen. I’w lywodraeth ni bydd dim diwedd mwy, A’i ogoniant a leinw’r byd. Dy ewyllys wneir, A gwrandewir dy Air, Boed i’th Deyrnas di ddod yn ein plith. Mae ’na floedd drwy y tir wrth in ateb y gri, Clod i’r Brenin! […]
Fe brynaist ti a’th werthfawr waed, Rai o bob gwlad a llwyth ac iaith; Rhyddid o gaethiwed pechod du, Wedi’r bedd fe atgyfoda llu, I dragwyddol hedd: Teilwng yw yr Oen ar yr orsedd yn awr, O’r anrhydedd, gogoniant A’r nerth a’r holl fawl! Teilwng yw yr Oen ar yr orsedd yn awr, O’r anrhydedd, […]
DYNION: Fe ddaeth a fi at fyrddau ei fendith, MERCHED: Fe ddaeth a fi at fyrddau ei fendith, DYNION: Fe ddaeth a fi at fyrddau ei fendith, MERCHED: Fe ddaeth a fi at fyrddau ei fendith, PAWB: Baner cariad drosof fi roes Ef. DYNION: Eiddof fi f’anwylyd ac yntau fi, MERCHED: Eiddof fi f’anwylyd ac […]
Fe gyfaddefwn Iôr ein bod ni yn wan, O! mor wan, ond rwyt ti’n gryf; Ac er na feddwn ddim i roi wrth dy draed, Fe ddown atat ti, gan ddweud: ‘Helpa di ni.’ Fe gyfaddefwn… Calon doredig gydag ysbryd gwylaidd, Ni wrthodaist erioed; Fe gur dy galon gyda cherrynt cariad, Llifa’n afon fawr, drwy […]
Fy ffrind a’m Iôr Melysach serch na mêl, Fe’m cwrdd lle’r wyf yn awr. Beth alla’i wneud? Ymgrymaf ger dy fron, Dy wedd sy’n drech na mi. Fe alwaf Iôr ar d’enw di, Dy haeddiant yw y clod i gyd. A byddaf byw yn llwyr i ti – Dy haeddiant yw y clod i gyd. […]