Wele’r dydd yn gwawrio draw, amser hyfryd sydd gerllaw; daw’r cenhedloedd yn gytûn i ddyrchafu Mab y Dyn. Gwelir teyrnas Iesu mawr yn ben moliant ar y llawr; gwelir tŷ ein Harglwydd cu goruwch y mynyddoedd fry. Gwelir pobloedd lawer iawn yn dylifo ato’n llawn; cyfraith Iesu gadwant hwy ac ni ddysgant ryfel mwy. Yna […]
Wedi oesoedd maith o d’wyllwch, mae’r argoelion yn amlhau fod cysgodau’r nos yn cilio a’r boreddydd yn nesáu; Haul Cyfiawnder, aed dy lewyrch dros y byd. Mae rhyw gynnwrf yn y gwledydd gyda thaeniad golau dydd, sŵn carcharau yn ymagor, caethion fyrdd yn dod yn rhydd: Haul Cyfiawnder, aed dy lewyrch dros y byd. Nid […]
Wrth orsedd y Jehofa mawr plyged trigolion byd i lawr; gwybydded pawb mai ef sy Dduw, yr hwn sy’n lladd a gwneud yn fyw. Â’i ddwyfol nerth, fe’n gwnaeth ei hun o bridd y ddaear ar ei lun; er in, fel defaid, grwydro’n ffôl, i’w gorlan ef a’n dug yn ôl. I’th byrth â diolch-gân […]
Wel dyma hyfryd fan i droi at Dduw, lle gall credadun gwan gael nerth i fyw: fry at dy orsedd di ‘rŷm yn dyrchafu’n cri; O edrych arnom ni, a’n gweddi clyw! Ddiddanydd Eglwys Dduw, ti Ysbryd Glân, sy’n llanw’r galon friw â mawl a chân, O disgyn yma nawr yn nerth dy allu mawr; […]
Wele’r Athro mawr yn dysgu dyfnion bethau Duw; dwyfol gariad yn llefaru – f’enaid, clyw! Arglwydd, boed i’th eiriau groeso yn fy nghalon i; crea hiraeth mwy am wrando arnat ti. Dyro inni ras i orffwys ar dy nerth a’th ddawn; tyfu’n dawel yn dy Eglwys, ffrwytho’n llawn. NANTLAIS, 1874-1959 (© Yr Athro S. Nantlais […]
Wel, f’enaid, dos ymlaen, ‘dyw’r bryniau sydd gerllaw un gronyn uwch, un gronyn mwy, na hwy a gwrddaist draw: dy anghrediniaeth gaeth a’th ofnau maith eu rhi’ sy’n peri it feddwl rhwystrau ddaw yn fwy na rhwystrau fu. ‘R un nerth sydd yn fy Nuw a’r un yw geiriau’r nef, ‘r un gras, a’r un […]
Wrth edrych, Iesu, ar dy groes, a meddwl dyfnder d’angau loes, pryd hyn ‘rwyf yn dibrisio’r byd a’r holl ogoniant sy ynddo i gyd. N’ad im ymddiried tra bwyf byw ond yn dy angau di, fy Nuw; dy boenau di a’th farwol glwy’ gaiff fod yn ymffrost imi mwy. Dyma lle’r ydoedd ar brynhawn rasusau […]
Wrth droi fy ngolwg yma i lawr i gyrrau’r holl greadigaeth fawr, gwrthrych ni wêl fy enaid gwan ond Iesu i bwyso arno’n rhan. Dewisais ef, ac ef o hyd ddewisaf mwy tra bwy’n y byd; can gwynfyd ddaeth i’m henaid tlawd – cael Brenin nefoedd imi’n Frawd. Fy nghysur oll oddi wrtho dardd; mae’n […]
Wnest ti ddim disgwyl Dduw I mi ddod yn nes, Ond fe wisgaist ti dy hun Ym mreuder dyn. Wnest ti ddim disgwyl im alw arnat ti, Ond fe elwaist ti yn gyntaf arnaf fi. A bydda’ i’n ddiolchgar am byth, Bydda’ i’n ddiolchgar am y groes, Am it ddod i achub rhai coll Byddai’n […]
Wedi dweud Amen A’r gân yn dod i ben, Dof o’th flaen heb ddim, Gan ddymuno rhoi, Rhywbeth gwell na sioe, Rhodd sy’n costio im. Rhof iti fwy na fy nghân, Ni all cân ynddi’ hun Fyth fod yn ddigon i Ti. Gweli yn ddwfwn o’m mewn, Dan y wyneb mae’r gwir, Gweli fy nghalon […]