Arglwydd, selia y cyfamod wna’r disgyblion ieuainc hyn; heddiw yn y cymun sanctaidd dangos aberth pen y bryn; rho ddeheulaw dy gymdeithas iddynt hwy. Cadw hwy rhag pob gwrthgiliad a rhag gwadu’r broffes dda; yn golofnau yn dy eglwys, cedyrn, prydferth, hwythau gwna; ysgrifenna d’enw newydd arnynt hwy. Diwyd fyddont yn dy winllan o dan […]