Mae’r Gŵr a fu gynt yn y llys dan bwysau gefynnau yn gaeth, yr awron yn anfon ei wŷs frenhinol dros drum a thros draeth: ardderchog Eneiniog y nef, ‘does undim a’i lluddias yn awr; mae’n crwydro, yn troedio pob tref a’i le ymhob lle ar y llawr. Mae’r baban fu’n fychan ei fyd, yn […]