Y mae hiraeth arnom, Arglwydd, am dy Ysbryd ar ein hynt, i’n sancteiddio a’n hadfywio megis yn y dyddiau gynt: O disgynned nawr fel gwlith neu dyner law. Gwna ni’n iraidd fel y glaswellt o dan faethlon wlith y nen; gwna ni’n ffrwythlon fel y gwinwydd, prydferth fel y lili wen, er gogoniant byth i’th […]