Ysbryd byw y deffroadau, disgyn yn dy nerth i lawr; rhwyga’r awyr â’th daranau, crea’r cyffroadau mawr; chwyth drachefn y gwyntoedd cryfion ddeffry’r meirw yn y glyn, dyro anadliadau bywyd yn y lladdedigion hyn. Ysbryd yr eneiniad dwyfol, dyro’r tywalltiadau glân, moes y fflam oddi ar yr allor, ennyn ynom sanctaidd dân; difa lygredd ein […]