Mawr yw ein Duw, mawr yw ein Duw, Mawr yw ein Duw, mawr yw ein Duw. Mawr yw ein Duw, mawr yw ein Duw, Mawr yw ein Duw, mawr yw ein Duw. Fe greodd y gwynt, yr eira a’r haul, Y tonnau ar draethau, y blodau a’r dail. Fore a hwyrnos, gaeaf a haf; […]
Mawr yw yr Arglwydd A theilwng o fawl, Yn ninas y Duw byw, y Brenin yw; Llawenydd yr holl fyd. Mawr yw yr Arglwydd sy’n ein harwain ni i’r gad, O’r gelyn fe gawsom ni ryddhad; Ymgrymwn ger ei fron. Ac Arglwydd Dduw dyrchafwn d’enw di, Ac Arglwydd Dduw diolchwn Am y cariad sy’n ein […]
Mawrygwn di er mwyn dy groes am gynnal tadau’r ffydd a’u tywys drwy bob cur a loes o’u rhwymau caeth yn rhydd: ti roddaist iddynt ras y nef a’r weledigaeth glir, dy Ysbryd di oedd yn eu llef wrth ddadlau hawliau’r gwir. Tydi, yr Archoffeiriad mawr, a roddaist iddynt nerth i gerdded tua thoriad gwawr […]
Mawrygwn di, O Dduw, am bob celfyddyd gain, am harddwch ffurf a llun, am bob melyster sain: ti’r hwn sy’n puro ein dyheu, bendithia gamp y rhai sy’n creu. Mawrygwn di, O Dduw, am ein treftadaeth hen, am rin y bywyd gwâr ac am drysorau llên: ti’r hwn sy’n puro ein dyheu, bendithia gamp y […]
Pennill 1 Megis golau gwan cannwyll yn ein twyllwch ni bythol olau Duw ddaw trwy’r baban gwan Cytgan Emaniwel, Haleliwia, tyrd i’n hachub, Haleliwia. Haleliwia. Pennill 2 Sêr ac engyl gân tra bo’r byd mewn trwmgwsg hir; all gwreichionen fach roi y byd ar dân? Cytgan Pennill 3 Gloywai’i gwawl yn lân yn ein byw, […]
Melys ydyw cywair ein telynau glân, am fod oriau bywyd oll yn llawn o gân; nid oes gan un plentyn hawl i fod yn drist yn y fintai ffyddlon sydd yn dilyn Crist. Hosanna! pêr Hosanna! dyrchafwn lawen lef: câr Iesu gân y galon lân, Hosanna iddo ef! Hosanna! pêr Hosanna! Hosanna! pêr […]
Mewn anialwch ‘rwyf yn trigo, temtasiynau ar bob llaw, heddiw, tanllyd saethau yma, ‘fory, tanllyd saethau draw; minnau’n gorfod aros yno yn y canol, rhwng y tân; tyrd, fy Nuw, a gwêl f’amgylchiad, yn dy allu tyrd ymlaen. Marchog, Iesu, yn llwyddiannus, gwisg dy gleddau ‘ngwasg dy glun; ni all daear dy wrth’nebu chwaith nac […]
Mewn cof o’th aberth wele ni, O Iesu, ‘n cydnesáu; un teulu ydym ynot ti, i’th garu a’th fwynhau. Dy gariad di dy hun yw’r wledd – ni welwyd cariad mwy; ffynhonnau o dragwyddol hedd a dardd o’th farwol glwy’. Er mwyn y gras a ddaeth i ni o’th ddwyfol aberth drud, gwna’n cariad fel […]
Mewn cyfyngderau bydd yn Dduw, Nid wyf ond gwyw a gwan; Nid oes ond gallu mawr y nen A ddeil fy mhen i’r lan. Ni fedda’i mewn nac o’r tu maes Ond nerthol ras y Nef Yn erbyn pob tymhestloedd llym, A’r storom gadarn gref. Cysurwch fi, afonydd pur, Rhedegog ddyfroedd byw, Sy’n tarddu o […]
Cytgan: Mewn llawenydd yr âf allan, Ac mewn heddwch caf fy arwain, Mynyddoedd a bryniau yn Bloeddio canu o’m blaen. Mewn llawenydd yr âf allan, Ac mewn heddwch caf fy arwain, Holl goedwig y meysydd Yn curo dwylo o’m blaen. Pen 1: Fel hyn mae y gair a ddaw o’th enau, Nid yw’n dychwel atat […]