Cyd-ddiolchwn, Arglwydd tirion, am yr ysguboriau llawn: ti sy’n nerthu dwylo dynion a rhoi grym i gasglu’r grawn; am i ti ein cofio beunydd a chyflawni eto’r wyrth, yma canwn am y cynnydd a rhown ddiolch yn y pyrth. Byth ni phaid dy drugareddau, a’th ddaioni sydd yr un; pwy all gofio dy holl ddoniau […]
Cydunwn oll o galon rwydd i foli’r Arglwydd tirion am drugareddau’r flwyddyn hon a’i ryfedd, gyson roddion. Boed ein heneidiau oll ar dân i seinio cân soniarus o fawl i enw’r sanctaidd Iôr am ddoniau mor haelionus. O Arglwydd, dyro inni ras i’th ffyddlon wasanaethu, a thrwy dy roddion hael o hyd i’th hyfryd ogoneddu. […]
Pan wyt ar fôr bywyd ac o don i don, pan fo ofni suddo yn tristáu dy fron, cyfrif y bendithion, bob yn un ac un, synnu wnei at gymaint a wnaeth Duw i ddyn. Cyfrif y bendithion, un ac un, cyfrif gymaint a wnaeth Duw i ddyn, y bendithion, cyfrif un ac un, synnu […]
Datganaf dy glod, O Arglwydd fy Nuw, dy wyrthiau a’th nerth sydd hynod eu rhyw; d’ogoniant a’th harddwch a welir drwy’r byd, a phopeth a greaist sy’n rhyfedd i gyd. Goleuni o bell a roddaist uwchben, a thaenaist y nef o amgylch fel llen, y sêr a’r planedau a’r wybren las, faith sy’n datgan drwy’r […]
Deuwn ger dy fron yn awr i’th glodfori, Iesu mawr; diolch iti am yr haf a ffrwythau y cynhaeaf. Rhoddwn iti foliant glân, diolch, Arglwydd, yw ein cân; clod a mawl a fo i ti am gofio’r byd eleni. Diolch iti, Arglwydd Dduw, am gynhaliaeth popeth byw, am gynhaeaf yn ei bryd i borthi plant […]
Disgwyliaf o’r mynyddoedd draw: ble daw im help ‘wyllysgar? Yr Arglwydd, rhydd im gymorth gref, hwn a wnaeth nef a daear. Dy droed i lithro, ef nis gad, a’th Geidwad fydd heb huno; wele dy Geidwad, Israel lân, heb hun na hepian arno. Ar dy law ddehau mae dy Dduw, yr Arglwydd yw dy Geidwad; […]
Duw a wnaeth y byd, y gwynt a’r storm a’r lli, ond nid yw e’n rhy fawr i’n caru ni. Duw a wnaeth y sêr sy’n sgleinio acw fry, ond nid yw e’n rhy bell i’n caru ni. Duw a ddaeth un tro i’w fyd, daeth yma’n fyw, a dangos wnaeth i ni mai cariad […]
Duw Abram, molwch ef, yr hollalluog Dduw, yr Hen Ddihenydd, Brenin nef, Duw, cariad yw. I’r Iôr, anfeidrol Fod, boed mawl y nef a’r llawr; ymgrymu wnaf, a rhof y clod i’r enw mawr. Duw Abram, molwch ef; ei hollddigonol ddawn a’m cynnal ar fy nhaith i’r nef yn ddiogel iawn; i eiddil fel myfi […]
Cwpan Duw (Tôn: Troyte, 394 Caneuon Ffydd) Duw sy’n rhoi harddwch i fynydd a phant, Ef sy’n rhoi bwrlwm yn nyfroedd y nant, Ef sy’n rhoi’r machlud ac Ef sy’n rhoi’r wawr; am ei holl roddion, rhown ddiolch yn awr. Duw rydd yr heulwen i’n llonni o’r nen, ‘r ôl i’r cymylau wasgaru uwchben; Ef […]
Nerth a gawn wrth ddisgwyl wrth ein Duw. Rym am ddisgwyl wrth ein Duw, Rym am ddisgwyl wrth ein Duw. Ein Duw, ti sy’n teyrnasu. Ein craig, ti sy’n ein hachub. Ti Arglwydd yw’r tragwyddol Dduw, Yr un tragwyddol Dduw, Dwyt byth yn blino na llewygu. Ti sy’n amddiffyn y rhai gwan, Cysuro’r rhai sy’n […]