Deuwn ger dy fron yn awr i’th glodfori, Iesu mawr; diolch iti am yr haf a ffrwythau y cynhaeaf. Rhoddwn iti foliant glân, diolch, Arglwydd, yw ein cân; clod a mawl a fo i ti am gofio’r byd eleni. Diolch iti, Arglwydd Dduw, am gynhaliaeth popeth byw, am gynhaeaf yn ei bryd i borthi plant […]
Diolch, diolch, Iesu, diolch, diolch, Iesu, diolch, diolch, Iesu yw fy nghân; diolch, diolch, Iesu, O diolch, diolch, Iesu, diolch, diolch, Iesu yw fy nghân. ‘Fedra i fyth mo’i amau, ‘Fedra i fyth mo’i amau, ‘Fedra i fyth mo’i amau yw fy nghân; ‘Fedra i fyth mo’i amau, O ‘fedra i fyth mo’i amau, ‘Fedra […]
Daeth eto ŵyl y geni – y ddôl, y pant a’r bryn y’n bloeddio mewn llawenydd y rhyfedd newydd hyn: ddistyllu o holl sylwedd y cread i ffurf dyn, a Mair yng ngwewyr esgor ddug Dduw a’i blant yn un. Daeth eto ŵyl y geni – a chludwn at y tŷ fel doethion gynt, â’u […]
Duw sydd gariad, caned daear, Duw sydd gariad, moled nef, boed i’r holl greadigaeth eilio cân o fawl i’w enw ef; hwn osododd seiliau’r ddaear ac a daenodd dir a môr, anadl pob creadur ydyw, gariad bythol, Duw ein Iôr. Duw sydd gariad, a chofleidia wledydd byd yn dirion Dad; cynnal wna rhwng breichiau diogel […]
Deuwch gyda mi draw i dŷ fy Nhad, draw i dŷ fy Nhad, draw i dŷ fy Nhad; deuwch gyda mi draw i dŷ fy Nhad lle cawn lawenhau. Nid yw’r ffordd yn bell draw i dŷ fy Nhad, draw i dŷ fy Nhad, draw i dŷ fy Nhad; nid yw’r ffordd yn bell draw […]
Da yw ein byd, wrth lenwi’n hysguboriau heb hidio dim am newyn ein heneidiau; maddau, O Dduw, na fynnwn weled eisiau gwir Fara’r Bywyd. Digon i ni yw’r hyn nad yw’n digoni, yfwn o ffrwd nad yw yn disychedu; maddau, O Dduw, i ni sydd yn dirmygu Ffynnon y Bywyd. Cod ni, O Dduw, o […]
Duw a wnaeth y byd, y gwynt a’r storm a’r lli, ond nid yw e’n rhy fawr i’n caru ni. Duw a wnaeth y sêr sy’n sgleinio acw fry, ond nid yw e’n rhy bell i’n caru ni. Duw a ddaeth un tro i’w fyd, daeth yma’n fyw, a dangos wnaeth i ni mai cariad […]
Dragwyddol Dduw, sy’n Dad holl deulu’r llawr, erglyw ein cri yn ein cyfyngder mawr, yn nos ein hadfyd rho in weled gwawr dy heddwch di. Dy ysig blant sy’n ebyrth trais a brad, a dicter chwerw ar wasgar drwy bob gwlad, a brwydro blin rhwng brodyr; O ein Tad, erglyw ein cri. Rhag tywallt gwaed […]
Deuwn yn llon at orsedd Duw, ein Ceidwad digyfnewid yw; gwyrth ei drugaredd sydd o hyd ar waith ynghanol helbul byd. Gwir yw y gair, fe ddeil yr Iôr i agor llwybyr drwy y môr; lle byddo ffydd fe ddyry ef ddŵr pur o’r graig a manna o’r nef. Deil i waredu, heb lesgau, ei […]
Dos, dywed ar y mynydd, ledled y bryn ac ymhob man, dos, dywed ar y mynydd am eni Iesu Grist. Tra gwyliai y bugeiliaid y praidd drwy’r noson hir, yn syth o’r nef disgleiriodd goleuni dwyfol, clir. A hwythau, wedi’i weled, aent ar eu gliniau ‘nghyd, ac yna mynd ar unwaith i geisio Prynwr byd. […]