Trwy nos galar ac amheuon Teithia pererinion lu, Ânt dan ganu cerddi Seion Tua gwlad addewid fry. Un yw amcan taith yr anial, Bywiol ffydd, un hefyd yw; Un y taer ddisgwyliad dyfal, Un y gobaith ddyry Duw. Un yw’r gân a seinia’r miloedd O un galon ac un llef; Un yw’r ymdrech a’r peryglon, […]