Clywch lu’r nef yn seinio’n un, henffych eni Ceidwad dyn: heddwch sydd rhwng nef a llawr, Duw a dyn sy’n un yn awr. Dewch, bob cenedl is y rhod, unwch â’r angylaidd glod, bloeddiwch oll â llawen drem, ganwyd Crist ym Methlehem: Clywch lu’r nef yn seinio’n un, henffych eni Ceidwad dyn! Crist, Tad tragwyddoldeb […]
Trwy nos galar ac amheuon Teithia pererinion lu, Ânt dan ganu cerddi Seion Tua gwlad addewid fry. Un yw amcan taith yr anial, Bywiol ffydd, un hefyd yw; Un y taer ddisgwyliad dyfal, Un y gobaith ddyry Duw. Un yw’r gân a seinia’r miloedd O un galon ac un llef; Un yw’r ymdrech a’r peryglon, […]
Yn nhawel wlad Jwdea dlos yr oedd bugeiliaid glân yn aros yn y maes liw nos i wylio’u defaid mân: proffwydol gerddi Seion gu gydganent ar y llawr i ysgafnhau y gyfnos ddu, gan ddisgwyl toriad gwawr. Ar amnaid o’r uchelder fry dynesai angel gwyn, a safai ‘nghanol golau gylch o flaen eu llygaid syn: […]