Moliannwn di, O Arglwydd, wrth feddwl am dy waith yn llunio bydoedd mawrion y greadigaeth faith; wrth feddwl am dy allu yn cynnal yn eu lle drigfannau’r ddaear isod a phreswylfeydd y ne’. Moliannwn di, O Arglwydd, wrth feddwl am dy ffyrdd yn llywodraethu’n gyson dros genedlaethau fyrdd; wrth feddwl am ddoethineb dy holl arfaethau […]