Caned nef a daear lawr, fe gaed ffynnon i olchi pechaduriaid mawr yn glaer wynion; yn y ffynnon gyda hwy minnau ‘molcha’, ac mi ganaf fyth tra bwy’: Haleliwia! Dyma’r dŵr a dyma’r gwaed redodd allan, ac o’i ystlys sanctaidd gaed i olchi’r aflan; hon yw’r ffynnon sy’n glanhau yr aflana’; yn dragywydd mae’n parhau: […]