Deuwn ger dy fron yn awr i’th glodfori, Iesu mawr; diolch iti am yr haf a ffrwythau y cynhaeaf. Rhoddwn iti foliant glân, diolch, Arglwydd, yw ein cân; clod a mawl a fo i ti am gofio’r byd eleni. Diolch iti, Arglwydd Dduw, am gynhaliaeth popeth byw, am gynhaeaf yn ei bryd i borthi plant […]
Mae’r Arglwydd yn cofio y dryw yn y drain, ei lygad sy’n gwylio y wennol a’r brain; nid oes un aderyn yn dioddef un cam, na’r gwcw na bronfraith na robin goch gam. Rhown foliant i Dduw am ein cadw ninnau’n fyw, am fwyd ac am ddillad moliannwn ein Duw; rhown foliant i Dduw am […]