Gobaith mawr y mae’r addewid wedi ei osod draw o’m blaen; hwn a gynnal f’enaid egwan rhag im lwfwrhau yn lân. Gobaith, wedi rhyfel caled, y caf fuddugoliaeth lawn; gobaith bore heb gymylau ar ôl noswaith dywyll iawn. Gobaith, ar ôl maith gystuddiau, y caf fod heb boen na chlwy’; gobaith, yn y ffwrnais danllyd, […]