O fendigaid Geidwad, clyw fy egwan gri, crea ddelw’r cariad yn fy enaid i; carwn dy gymundeb nefol, heb wahân, gwelwn wedd dy wyneb ond cael calon lân. Plygaf i’th ewyllys, tawaf dan bob loes, try pob Mara’n felys, braint fydd dwyn y groes; molaf dy drugaredd yn y peiriau tân; digon yn y diwedd […]